Troi Tai'n Gartrefi - Benthyciad Eiddo Gwag
Gall perchnogion eiddo gwag wneud cais am fenthyciad o hyd at £35,000 i atgyweirio ac i adnewyddu eiddo gwag sy’n is na’r safon ar hyn o bryd i sicrhau bod modd i bobl fyw ynddo eto.
Pa waith y mae’r grant hwn yn berthnasol iddo?
Gellir defnyddio’r Benthyciad Troi Tai’n Gartrefi i atgyweirio rhannau o’r eiddo sydd mewn cyflwr gwael neu i fynd i’r afael â pheryglon (fel y’u pennir gan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai).
Gellir defnyddio’r benthyciad hwn ar gyfer eitemau fel a ganlyn:
- Atgyweirio to, wal neu lawr
- Ymdrin â phroblemau tamprwydd
- Sicrhau bod yr eiddo’n saffach ac yn fwy diogel rhag tân
- Gosod ffenestri, drysau, ceginau neu ystafelloedd ymolchi newydd
- Gosod mesurau i arbed ynni, gan gynnwys system wresogi
- Addasu’r eiddo’n unedau preswyl annibynnol
Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn. Bydd un o swyddogion yr Awdurdod Lleol yn penderfynu pa waith sy’n gymwys pan fydd yn archwilio’r eiddo. I drefnu i swyddog ymweld â chi i drafod y benthyciad, cysylltwch â ni drwy ffonio 01545 570881.
Pwy sy’n gymwys?
Dim ond er mwyn gosod neu werthu’r eiddo y gellir defnyddio’r benthyciad hwn. Nid yw’r benthyciad hwn ar gael i berchnogion sy’n bwriadu byw yn yr eiddo. (Dylai’r ymgeiswyr hyn gael cipolwg ar y Benthyciadau Gwella Cartrefi.)
Gellir rhoi benthyciad i unigolion (bydd angen 3 mis o slipiau cyflog), i elusennau (bydd angen 3 blynedd o gyfrifon) ac i gwmnïau/busnesau (bydd angen 3 blynedd o gyfrifon).
Gellir benthyg hyd at 80% o werth yr eiddo (LTV). Felly, byddwn yn ystyried unrhyw gyllid arall sydd wedi’i warantu yn erbyn yr eiddo ac efallai y byddwn yn addasu swm y benthyciad ar y sail honno.
Rhaid bod yr eiddo wedi bod yn wag am o leiaf chwe mis cyn dyddiad y cais er mwyn i chi fod yn gymwys i gael benthyciad.
Faint o arian y byddaf yn ei gael?
Gellir cyflwyno cais am fenthyciad o hyd at £35,000 ar gyfer pob uned y gellir byw ynddi. Byddwn yn penderfynu ar swm y benthyciad ar sail cost y gwaith. Felly, bydd angen i chi gyflwyno dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith fel rhan o’ch cais.
Gallwch wneud cais am fenthyciad o hyd at £250,000 (er enghraifft i addasu annedd yn fflatiau).
Ar yr amod na fyddwch yn methu ad-daliad, bydd y benthyciad yn ddi-log. Os na fyddwch yn ad-dalu’r benthyciad neu os byddwch yn torri unrhyw un arall o’r amodau, bydd rhaid ad-dalu’r benthyciad i gyd a bydd llog yn ddyledus ar y swm sy’n weddill. Ar hyn o bryd, codir llog ar gyfradd sylfaenol Banc Lloegr plws 5%.
Bydd angen ffi gweinyddu fel cyfraniad tuag at gostau prosesu eich cais.
- Benthyciad i fyny at £10,000 - ffi o £1210.00
- Benthyciad £10,001 - £25,000 - ffi o £1818.00
- Benthyciad dros £25,000 - ffi o £2663.00
Bydd y ffioedd hyn ar gyfer landlordiaid yn cael eu hepgor os yw'r eiddo yn cael ei gynnig i'w rhentu ar gyfradd y Lwfans Tai Lleol am gyfnod y benthyciad, ac mae'r landlord yn rhentu'r eiddo i denantiaid o Gofrestr Tai Fforddiadwy'r Cyngor neu fel arall yn denant a fyddai'n gymwys i fod ar y Gofrestr hon.
Mae’n ofynnol bod Gwasanaethau Cyfreithiol y Cyngor yn cofrestru arwystl ariannol cyntaf neu ail arwystl ariannol ar yr eiddo a gynigir fel gwarant.
Sut y byddaf yn trefnu’r gwaith?
Gall yr Awdurdod Lleol ddarparu gwasanaeth goruchwylio gwaith adeiladu i sicrhau bod safonau’r saernïaeth yn gyson a bod y gwaith yn cael ei gyflawni’n brydlon. Gall y gwasanaeth goruchwylio fesur yr eiddo i lunio cynllun gwaith, gan gynnwys lluniadau lle bo angen, cael gafael ar ddyfynbrisiau, gan gynnwys ar gyfer unrhyw gyfarpar arbenigol, a datrys unrhyw broblemau pan fyddant yn codi. Gall yr ymgeisydd ddewis defnyddio’r gwasanaeth hwn, a hynny am dâl o 10%. Fel arall, gall drefnu i’w gontractwyr ei hun gyflawni’r gwaith.
Amodau’r benthyciad, gan gynnwys y trefniadau ad-dalu
- Dylid cwblhau’r gwaith cyn pen 12 mis ar ôl i’r cais gael ei gymeradwyo, oni cheir caniatâd fel arall
- Gellir talu swm y benthyciad i’r ymgeisydd cyn i’r gwaith ddechrau i ddarparu cyfalaf gweithio i’r perchnogion
- Rhaid i’r ymgeisydd gytuno i ad-dalu’r benthyciad drwy Ddebyd Uniongyrchol
- O fethu ad-daliad, bydd angen ad-dalu’r swm sy’n weddill yn llwyr, a bydd rhaid talu llog fel y nodir yng Nghytundeb y Benthyciad
- Byddwn yn cofrestru pridiant cyfreithiol gyda’r Gofrestrfa Dir ar gyfer pob cais
- Bydd rhaid ad-dalu Benthyciadau i Osod Eiddo lan I pump blynedd ar ôl talu swm y benthyciad i’r ymgeisydd
- Bydd rhaid ad-dalu Benthyciadau i Werthu Eiddo ddwy flynedd ar ôl talu swm y benthyciad i’r ymgeisydd
- Os caiff yr eiddo ei werthu / ei waredu’n gynharach na’r dyddiad ad-dalu, bydd rhaid ad-dalu swm y benthyciad i’r Awdurdod Lleol yn llwyr
- Rhaid marchnata’r eiddo/unedau i’w gwerthu neu’u gosod o fewn cyfnod rhesymol ar ôl cwblhau’r gwaith (12 wythnos). Os bydd yr eiddo/unedau ar gael i’w rhentu a neb yn byw ynddynt yn ystod y cyfnod hwn, mae’n bosibl y bydd angen ad-dalu’r benthyciad