Skip to main content

Ceredigion County Council website

Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) 2022

O dan Ran 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gynnal asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr o leiaf bob 5 mlynedd a darparu safleoedd ar eu cyfer os yw’r asesiad yn dangos bod angen nas diwallwyd am leiniau i gartrefi symudol.

Mae Adran 108, Deddf Tai (Cymru) 2014 yn diffinio Sipsiwn a Theithwyr fel:

Personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys:

·       personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol; a

·       aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio); a

·       unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol

Cynhaliwyd Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr gan Gyngor Sir Ceredigion yn 2022 a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru yn 2024 gyda'r nod o sefydlu'r angen i ddarparu lleiniau tramwy, dros dro neu barhaol dros y pum mlynedd nesaf. Gellir dod o hyd i'r adroddiad yma.

Cynhaliwyd y GTAA yn unol â chanllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.