Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cŵn ar Draethau

Gorchmynion Rheoli Cŵn a Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus

Oherwydd is-ddeddfau cyfredol a Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus wedi’u hanelu at warchod nofwyr, gwaherddir cŵn rhag mynd ar draethau penodol yng Ngheredigion. Nid yw’r cyfyngiadau yn berthnasol i Gŵn Tywys.

Mae’r cyfyngiadau’n berthnasol i’r traethau canlynol:

O 1af Mai hyd at 30ain Medi:

Aberaeron (Traeth y De)

Gwaherddir cŵn rhag mynd rhwng Waliau’r Harbwr a’r grwyn i’r de o Ffordd y Traeth

Aberystwyth (Traeth y De)

Gwaherddir cŵn rhag mynd rhwng Pentir y Castell (terfyn y gogledd) a’r grwyn cyntaf ar ddiwedd Y Ro Fawr (terfyn y de)

Aberystwyth (Traeth y Gogledd)

Gwaherddir cŵn rhag mynd rhwng ochr ogleddol y llwyfan glanio, y cyfeirir ato hefyd fel y lanfa, a phen gogleddol y traeth wrth Craig Glais, neu Constitution Hill

Aber-porth

Gwaherddir cŵn rhag mynd ar Draeth Dolwen

Y Borth

Gwaherddir cŵn rhag mynd o’r Hostel Ieuenctid i’r de o Y Stryd Fawr i orsaf yr RNLI.

Gwaherddir cŵn rhag mynd o orsaf yr RNLI i’r creigiau islaw Heol y Graig, yn unol â Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus

Clarach

Gwaherddir cŵn rhag mynd o’r traeth i’r de o’r afon

Cei Newydd

Gwaherddir cŵn rhag mynd ar draeth yr Harbwr rhwng y pier a Phenpolion, hen wal yr harbwr wrth ymyl Gorsaf Bad Achub yr RNLI

Llangrannog

Gwaherddir cŵn rhag mynd ar y traeth rhwng Nant Hawen a chraig Pen Rhip i’r chwith

Mwnt

Gwaherddir cŵn rhag mynd ar y traeth cyfan

Penbryn

Gwaherddir cŵn rhag mynd i ardal y traeth ac i’r de o Nant Hoffnant

Tresaith

Gwaherddir cŵn rhag mynd i ran ddeheuol y traeth rhwng y grisiau mynediad a chraig Carreg-y-Ddafad


Cŵn ar Dennyn

Rhaid cadw cŵn ar dennyn yn yr ardaloedd canlynol:

Aberaeron 

Ffordd y Traeth 

Aber-porth 

I’r gorllewin o Faes y Felin ar hyd Ffordd yr Odyn i lan y môr ar Draeth Dolwen 

Aberystwyth 

Traeth y Gogledd ar hyd y promenâd ac o Bentir y Castell i Craig Glais (Constitution Hill) 

Traeth y De ar hyd y promenâd ac o Bentir y Castell i gyfeiriad y de i derfyn deheuol y lanfa ar Draeth y De. 

Y rhan fwyaf o’r prif strydoedd yn nhref Aberystwyth 

Borth 

O ddiwedd Ffordd y Graig ar hyd y Ffordd Fawr ac i’r gogledd i’r Hostel Ieuenctid

Clarach 

Ffordd fynediad y traeth o’r gyffordd yn Llangorwen i’r gogledd o Draeth Clarach.

Ffordd fynediad y traeth o’r gyffordd â’r B4572 i’r de o Draeth Clarach.

Cei Newydd

Rhes Glanmor o’r gyffordd â Rhes Uchel hyd at, a chan gynnwys Stryd Ioan 

Llangrannog 

Ffordd y B4321 o dafarn Y Ship i gyfeiriad gorllewinol 

Penbryn 

Y ffordd o Lanborth i lan y môr 

Tresaith 

Ffordd y Traeth o’r gyffordd i lawr i’r traeth

Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) ar y Traeth a’r Promenâd yn y Borth

Mae cyfyngiadau ar ran o’r traeth a’r promenâd yn y Borth, un sy’n gwahardd mynd â chŵn am dro ar y traeth ac un sy’n gwahardd mynd â chŵn am dro heb dennyn ar y promenâd.

Cŵn ar y Traeth a’r Promenâd yn y Borth