Y Panel Heddlu a Throseddu yn cefnogi praesept arfaethedig 2025/26
Mae aelodau Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wedi cefnogi cynnydd o 8.6% ym mhraesept arfaethedig y Comisiynydd.
Yn ystod cyfarfod cyntaf y panel ar gyfer 2025, a gynhaliwyd ddydd Gwener 24 Ionawr, bu'r aelodau'n trafod y praesept ac yn craffu ar gynlluniau cyllidebol y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Mae'r panel yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan y pedwar cyngor yn ardal yr heddlu a dau aelod annibynnol, ac mae ganddo'r pŵer i gymeradwyo neu roi feto ar braesept arfaethedig yr heddlu.
Ariennir plismona lleol trwy grant gan y Swyddfa Gartref yn ogystal â chyfraniadau gan y cyhoedd drwy'r Dreth Gyngor, a adwaenir fel praesept yr heddlu.
Mae'r praesept yn cyfrif am tua 50% o'r holl refeniw sydd ar gael i'r Comisiynydd. Ynghyd â chyllid y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru, bydd hyn yn darparu cyllideb yr heddlu ar gyfer 2025/26.
Mae cyllid gan y Swyddfa Gartref yn dibynnu, yn rhannol o leiaf, ar gynnal nifer benodol o swyddogion heddlu. Ar ôl craffu ar sefyllfa ariannol bresennol Heddlu Dyfed-Powys, daeth Panel yr Heddlu a Throseddu i'r casgliad nad oedd lleihau nifer y swyddogion i wneud arbedion yn opsiwn realistig.
Bu gostyngiadau sylweddol yn y setliad grant a dderbyniwyd gan y Swyddfa Gartref dros y degawd diwethaf ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn derbyn y swm isaf o grant y Swyddfa Gartref fesul pen o boblogaeth holl ardaloedd heddluoedd Cymru. Y lefel praesept bresennol yn Nyfed-Powys yw'r isaf yng Nghymru o hyd.
Nododd y Panel hefyd mai'r ffactorau sy'n debygol o gael effaith sylweddol ar gyllideb y Comisiynydd yw'r codiad cyflog disgwyliedig ar gyfer swyddogion heddlu, oddeutu 2.6% i 2.8%, sy'n debygol o gael ei gymeradwyo yn 2025-2026 a phwysau costau chwyddiant eraill, a achosir gan ddigwyddiadau byd-eang, sydd y tu hwnt i reolaeth yr heddlu.
Mae'r tâl am swyddogion heddlu yn cael ei bennu yn genedlaethol ac nid oes gan y llu unrhyw reolaeth drosto.
Wrth graffu ar gynlluniau cyllidebol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer y flwyddyn i ddod, nododd y Panel sawl ffactor sy'n cynrychioli gwerth am arian o'r praesept, gan gynnwys cynnal y lefelau hanesyddol uchel o swyddogion â gwarant a gyflogir gan y llu; y ffaith bod bodlonrwydd y cyhoedd gyda Heddlu Dyfed-Powys ar y cyfan yn uchel a bod lefelau troseddu yn gyffredinol yn isel. Mae'r buddsoddiad mewn trin galwadau yng nghanolfan reoli'r heddlu, yn dilyn praesept 2024, hefyd wedi helpu i gyflawni gwelliant sylweddol mewn perfformiad.
Yn dilyn cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed-Powys, dywedodd Cadeirydd y Panel, yr Athro Ian Roffe: “Rydym ni, fel Panel Heddlu a Throseddu wedi craffu ar Gyllideb y Comisiynydd yn fanwl ar gyfer 2025/26, gan fod sicrhau gwerth am arian i breswylwyr Sir Gaerfyrddin, Powys, Ceredigion a Sir Benfro yn hanfodol o ystyried y pwysau ariannol ar aelwydydd a chymunedau ar draws ardal ein heddlu. Er ein bod yn cydnabod yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn cefnogi'r cynnydd arfaethedig o 8.6% ym mhraesept Comisiynydd yr Heddlu er mwyn i Heddlu Dyfed-Powys barhau i wasanaethu ac amddiffyn ein cymunedau mewn modd effeithlon ac effeithiol.”
Ewch i www.panelheddluathroseddudp.cymru i gael rhagor o wybodaeth am y Panel, ei aelodaeth, dyddiadau cyfarfodydd sydd ar y gweill, agendâu a dolenni gweddarlledu, yn ogystal â chyflwyno cwestiynau i'r Panel eu rhoi gerbron y Comisiynydd.