Sesiwn holi ac ateb gyda phrif enillydd Gwobrau Caru Ceredigion 2024
Yn dilyn llwyddiant ysgubol y cigydd Sion Jones o Lanon, Ceredigion yng Ngwobrau Caru Ceredigion 2024, cawsom y cyfle i ddal lan gyda Sion a Sulwen i weld sut mae Cronfa Cynnal y Cardi wedi helpu eu busnes.
Rhowch gyflwyniad byr i ni o’ch busnes cyn derbyn Cronfa Cynnal y Cardi.
Mae Cigydd Sion Jones Butcher yn siop gigydd, wedi’i leoli yn Llanon, Ceredigion. Fel cwpwl ifanc a fagwyd ar ffermydd defaid a gwartheg teuluol, rydym yn angerddol am ddarparu cig o safon uchel sydd wedi’i fagu’n lleol, gan gefnogi ffermwyr a’r gymuned. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gynnyrch ffres, gan gynnwys pecynnau barbeciw, pecynnau brecwast, a phrydau sy’n barod i’w coginio.
Esboniwch yn gryno beth mae eich busnes wedi’i dderbyn drwy Gronfa Cynnal y Cardi.
Drwy Gronfa Cynnal y Cardi, rydym wedi derbyn cymorth ariannol i’n galluogi ni i sefydlu a thyfu’r busnes. Roedd galw i ni fuddsoddi’n sylweddol ar gyfarpar arbenigol, sydd wedi ein galluogi i ehangu ein hystod o gynnyrch ac i wella effeithlonrwydd ein prosesau mewnol. Mae hyn wedi ein galluogi i ddarparu mwy o siopau yn yr ardal leol, ac i gyflwyno pethau newydd i’r busnes megis prydau parod i’w coginio a’u rhewi, gan gynnig dewisiadau cyfleus i’n cwsmeriaid.
Pa effaith gadarnhaol y mae’r gronfa hon wedi’i chael ar eich busnes?
Mae Cynnal y Cardi wedi ein galluogi i fuddsoddi i greu brand, datblygu gwefan a chynnwys digidol i gryfhau ein cysylltiad â chwsmeriaid. Mae’r gronfa wedi ein helpu i ehangu ein cynnyrch a denu mwy o gwsmeriaid, yn enwedig y rhai sydd angen dewisiadau bwyd cyfleus. Yn ogystal, mae’r gefnogaeth hon wedi ein galluogi i feddwl yn fwy strategol am dwf hir dymor.
Ydy’r gronfa hon wedi helpu eich busnes i fod yn fwy cynaliadwy?
Ydy, yn bendant. Trwy fuddsoddi mewn prydau parod i’w rhewi, rydym wedi lleihau gwastraff ac wedi cynyddu ein gallu i ddarparu cynnyrch cyson. Mae’r gefnogaeth hefyd wedi ein helpu i sicrhau dyfodol mwy sefydlog i’n busnes, gan alluogi i ni addasu i ofynion cwsmeriaid a marchnadoedd newydd.
Sut fydd hyn yn effeithio ar yr economi leol a’r gymuned?
Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol drwy ein galluogi i gefnogi mwy o ffermwyr a chyflenwyr lleol, gan sicrhau bod arian yn aros o fewn y gymuned. Rydym yn credu’n gryf bod ffermwyr yn haeddu pris teg am eu cynnyrch.
Yn ogystal, rydym wedi medru a byddwn yn parhau i gynnal ymweliadau ag ysgolion lleol, gan addysgu disgyblion am fwyd lleol, y broses gigyddiaeth, a phwysigrwydd cynaliadwyedd, gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i gefnogi cynnyrch lleol.
Mae ein prydau parod yn darparu opsiynau maethlon a chyfleus i bobl brysur ac aelodau hŷn, gan eu helpu i gael mynediad at fwyd lleol o ansawdd uchel.
A fyddech wedi gallu gweithredu hyn heb Gronfa Cynnal y Cardi?
Fel pob busnes bach newydd, mae llif arian yn heriol, ac mae’r gefnogaeth wedi ein galluogi i fuddsoddi mewn cyfarpar hanfodol ac ehangu’r busnes yn gynt. Heb y gefnogaeth hon, ni fyddent wedi medru buddsoddi ar yr un raddfa a fyddai wedi arwain at oedi yn ein cynlluniau ehangu, gan leihau ein cyfleoedd i dyfu a denu sylw mewn marchnad gystadleuol.
A fyddech yn ystyried gwneud cais am Gronfa Cynnal y Cardi yn y dyfodol?
Yn sicr! Mae cefnogaeth Cronfa Cynnal y Cardi wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein helpu i dyfu ac arloesi. Yn y dyfodol, hoffem archwilio rhagor o gyfleoedd ariannu i ehangu ein cyfleusterau, creu mwy o swyddi lleol, a pharhau i gefnogi ein cymuned.
Am fwy o wybodaeth ynghylch prosiectau CFfGDU a phrosiectau Cynnal y Cardi ewch i Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas - Cyngor Sir Ceredigion neu cysylltwch â thîm Cynnal y Cardi drwy e-bost at ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.