Pobl ifanc Ceredigion yn cymryd rhan ym mhleidlais Rhoi dy Farn 2025
Mae mwy na 2,000 o bobl ifanc yng Ngheredigion wedi pleidleisio dros y pynciau maen nhw’n ystyried sydd bwysicaf iddyn nhw.
Mae pleidlais ‘Rhoi dy Farn 2025’, a gydlynir gan Wasanaeth Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu Ceredigion, yn rhoi cyfle i bobl ifanc bleidleisio ar bynciau amrywiol sydd wedyn yn llywio blaenoriaethau’r Cyngor Ieuenctid yn ystod gweddill y flwyddyn.
Pleidleisiodd 2,252 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ym mhleidlais Rhoi dy Farn 2025. Y pwnc llosg gyda’r nifer mwyaf o bleidleisiau oedd: ‘cyfleoedd gwaith’, gyda ‘trais yn erbyn menywod a merched’ yn ail, ac ‘iechyd meddwl a lles’ yn drydydd.
Dywedodd Bronwen Tuson, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion: “Mae llwyddiant ymgyrch ‘Rhoi dy Farn’ eleni wedi bod yn bleser i’w weld. Mae ymgysylltiad cynyddol pobl ifanc yn y gymuned yn dangos yn amlwg yn yr ymgyrch hwn. I gymharu â llynedd, mae 221 yn fwy o bobl wedi pleidleisio eleni, sy’n dangos y cyfrifoldeb a’r diddordeb y mae pobl ifanc yn cymryd yn eu hardal leol. Mae'r Cyngor Ieuenctid yn bwriadu ystyried y canlyniadau hyn a'u defnyddio i wella ein cymunedau.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’r pynciau mae pobl ifanc yng Ngheredigion wedi’u codi yn bwysig iawn, sy’n cyfuno materion byd-eang a lleol. Rydym yn falch iawn gweld y Cyngor Ieuenctid yn gwneud gwaith arbennig wrth gasglu a thrin a thrafod y pynciau hyn, ynghyd â’u cyflwyno i gynulleidfa ehangach. Dyma faterion pwysig tu hwnt, sy’n haeddu ystyriaeth bellach.”
Ym mis Gorffennaf 2025, bydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn cyflwyno cyfres o gwestiynau mewn ymateb i ganlyniadau’r bleidlais i banel o unigolion cyhoeddus.
Mae’r digwyddiad hwn wedi ei gynnal ers wyth mlynedd bellach ac yn gyfle i rannu llais pobl ifanc Ceredigion ynghylch materion sy’n bwysig iddyn nhw.
Cofiwch ddilyn Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar y cyfryngau cymdeithasol i weld y gweithgareddau diweddaraf:
- Facebook: @Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion Youth Service
- Instagram: @giceredigionys
- X: @GICeredigionYS