Skip to main content

Ceredigion County Council website

Llwyddiant yn Weithdai Lego Cered: Menter Iaith Ceredigion

Yn ystod wythnos hanner tymor ysgolion, trefnodd Cered:Menter Iaith Ceredigion dau weithdy Lego llwyddiannus yn Llechryd ac Aberystwyth ar gyfer plant 6 i 11 oed trwy gyfrwng y Gymraeg.

Pwrpas y gweithdai oedd cynnal prynhawn i blant i ail-greu eu hardal leol allan o Lego trwy gyd-weithio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cafodd y plant gyfle i weithio fel tîm, creu eu henwau allan o Lego, adeiladu atyniadau ac adeiladau o bentref Llechryd a thref Aberystwyth ac arddangos eu gwaith i’r grŵp. Roedd yn gyfle i’r plant creu ffrindiau newydd.

Fel y Fenter Iaith leol, mae Cered yn cynnal Clybiau Lego misol yn Llambed, Aberaeron, Aberystwyth, Cei Newydd a Thregaron lle mae plant yn dod ynghyd i gymdeithasu a dysgu mwy am hanes eu hardal leol trwy ail-greu atyniadau yn eu pentref/tref nhw.

Dywedodd Hannah James, trefnydd y gweithdai ar ran Cered: “Mae’n ffantastig gweld cymaint o blant yn dod i fynychu’r gweithdai Lego. Mae’n hynod o bwysig i gynnal gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg tu allan i’r ysgol ac yn ystod gwyliau. Mae’r gweithdai yn ffordd o gael plant o bob gallu ieithyddol i gymysgu a mwynhau gweithgaredd creadigol fel Lego sydd dal yn boblogaidd gyda phlant ifanc.”

Dywedodd Cynghorydd Catrin M.S. Davies, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae’n wych o beth bod cymaint o blant wedi mwynhau y gweithdai Lego yn Llechryd ac yn Aberystwyth yn y gweithgaredd poblogaidd a chynhwysol. Mae cynnal gweithgareddau cymdeithasol fel hyn yn grêt gan eu bod yn cynnig cyfle i blant siarad Cymraeg tu allan i’r ysgol er mwyn iddyn nhw weld yr iaith fel iaith gymdeithasol yn hytrach na’n iaith y dosbarth yn unig.”

Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am Glybiau Lego sydd yn digwydd o gwmpas Ceredigion, mae’r Fenter yn trefnu, cysylltwch â hannah.james@ceredigion.gov.uk