Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Cosb Benodedig am drosedd tipio anghyfreithlon wedi'i dal ar gamera

Atgoffir pobl i waredu eu gwastraff mewn modd cyfrifol wedi i unigolyn gael ei ddal yn tipio’n anghyfreithlon yng Ngheredigion.

Tipio anghyfreithlon yw dadlwytho unrhyw wastraff ar dir nad ydyw wedi'i drwyddedu i'w dderbyn. Dim ond Safleoedd Gwastraff o Gartrefi a Gorsafoedd Trosglwyddo Gwastraff sydd wedi'u trwyddedu i dderbyn gwastraff yng Ngheredigion. Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd amgylcheddol ddifrifol sy'n costio £100-£150 miliwn o bunnau bob blwyddyn i drethdalwyr y DU.

Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi dod o hyd i gyllid i osod camerâu mewn mannau lle mae tipio anghyfreithlon yn gyffredin ledled y sir, a hynny drwy'r Gronfa Ymateb i Ardaloedd â Phroblem Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB), sef menter gan Lywodraeth y DU.

Gosodwyd camera gwyliadwriaeth mewn lleoliad cudd sy'n edrych dros gilfan a nodwyd fel man tipio anghyfreithlon a sbwriel cyffredin ers sawl blwyddyn. Fe wnaeth y camera ddal unigolyn a gyrhaeddodd ar y safle mewn car a thaflu bag plastig gwyn i mewn i lystyfiant sy'n ffinio ag afon, cyn gyrru i ffwrdd eto.

Cafodd y bag gwyn ei ddarganfod yn ddiweddarach gan swyddog ac roedd yn cynnwys sbwriel cyffredinol fel pecynnau brechdanau a photeli plastig. Byddai'r deunyddiau hyn, a oedd wedi'u gadael mor agos at afon, yn anochel wedi llygru'r amgylchedd lleol.

Roedd yr unigolyn wedi torri Adran 87 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, sy'n nodi bod person yn euog o drosedd os ydynt yn taflu, gollwng neu fel arall yn gwaredu unrhyw sbwriel mewn unrhyw le y mae'r adran hon yn berthnasol iddo ac yn ei adael.

Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i'r unigolyn yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, ac mi gafodd ei dalu yn briodol.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: "Rwy'n falch iawn o glywed am y canlyniad gorfodi cadarnhaol sy'n ymwneud ag achos tipio anghyfreithlon yng Ngheredigion. Mae'n newyddion gwych bod y camerâu llwybr a brynwyd gyda Chronfa Ymateb i Ardaloedd â Phroblem Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wedi sicrhau y gellid adnabod y troseddwr a chyhoeddi hysbysiad cosb benodedig yn gyflym. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn parhau i ddefnyddio cyfleoedd cyllido i weithredu ymyriadau arloesol fel hyn i sicrhau bod ein cymunedau'n parhau i fod yn ddiogel ac yn rhydd o bob math o ymddygiad gwrthgymdeithasol."

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd: "Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol ac yn niweidio ein hamgylchedd. Mae'n bwysig ein bod yn gwaredu ein gwastraff yn gyfrifol, trwy ddefnyddio'r cyfleusterau priodol, fel y gallwn gadw ein cymunedau'n lân ac yn ddiogel i bawb. Mae'r tîm Diogelu'r Cyhoedd yn gwneud gwaith gwych wrth ddod â phobl nad ydynt yn cydymffurfio â hyn i gyfrif. Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i gadw ein cymunedau'n lân ac yn ddiogel."

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dipio anghyfreithlon a'r gyfraith yma: Tipio Anghyfreithlon