Gwasanaeth Casglu Gwastraff y Pasg
Gyda gwyliau cyhoeddus y Pasg ar y gorwel, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn newid y diwrnod casglu ar gyfer preswylwyr sydd fel arfer yn derbyn casgliad gwastraff ar ddydd Llun.
Pwrpas hyn yw ceisio sicrhau y bydd y gwasanaeth gwastraff yn parhau’n effeithiol dros gyfnod y Gwyliau Banc. Bydd y gwasanaeth yn dychwelyd i’r dyddiau casglu arferol o ddydd Mawrth 22 Ebrill.
Dros gyfnod y Pasg, byddwn yn ymgeisio i ddarparu casgliadau gwastraff fel a ganlyn:
Diwrnod Casglu Arferol |
Casglu ar |
|
Dydd Gwener, 18 Ebrill 2025 |
yn aros yr un peth |
Dydd Gwener, 18 Ebrill 2025 |
Dydd Llun, 21 Ebrill 2025 |
yn symud i |
Dydd Sadwrn, 19 Ebrill 2025 |
Gofynnir i drigolion rannu’r wybodaeth mor eang â phosib gyda chymdogion, teulu, ffrindiau a chymunedau ar draws Ceredigion a all gael eu heffeithio. Bydd y wefan yn cael ei diweddaru yn ystod yr wythnos sydd yn arwain at y Gŵyl Banc gydag unrhyw newid i’r drefn uchod: www.ceredigion.gov.uk/diweddariadaucasgliadaugwastraff
Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol: “Rydym yn adolygu’n barhaus ein dull o ddarparu ein gwasanaethau gyda’r bwriad o roi’r gwasanaeth gorau posib i’r cyhoedd gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni. Byddwn yn ymdrechu i rannu’r wybodaeth mor eang â phosib ac, fel bob amser fel rhan o Caru Ceredigion, hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus.”
Safleoedd Gwastraff Cartref
Dros wyliau cyhoeddus y Pasg, bydd oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llanbed a Chilmaenllwyd fel a ganlyn:
Diwrnod |
Oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llanbed a Chilmaenllwyd dros y Gwyliau Banc |
Dydd Gwener y Groglith |
Ar gau |
Dydd Sadwrn |
10:00-15:00 |
Dydd Sul |
10:00-15:00 |
Dydd Llun y Pasg |
10:00-15:00 |
Dros gwyliau cyhoeddus y Pasg bydd oriau agor Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon fel a ganlyn:
Diwrnod |
Oriau agor Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon dros y Gwyliau Banc |
Dydd Gwener y Groglith |
Ar gau |
Dydd Sadwrn |
10:00-17:00 |
Dydd Sul |
10:00-17:00 |
Dydd Llun y Pasg |
Ar gau |
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt CLIC drwy ffonio 01545 570881, neu ewch i’r wefan www.ceredigion.gov.uk