Galw am geisiadau ar gyfer cronfa digwyddiadau Cynnal y Cardi
Mae cronfa digwyddiadau Cynnal y Cardi yn agor am yr ail flwyddyn yn olynol ar gyfer busnesau a chymunedau yng Ngheredigion a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU).
Mae'r cronfa nawr ar agor ar gyfer ceisiadau ac yn cau ar ddydd Iau 01 Mai, 2025.
Mae twristiaeth yn sector economaidd sydd o bwysigrwydd hanfodol i Geredigion, sef y trydydd cyflogwr mwyaf yn y sir ac rydym yn awyddus i adeiladu ar y sector hwn a denu ymwelwyr newydd i'r ardal.
Bydd cronfa digwyddiadau Cynnal y Cardi yn canolbwyntio ar:
- Denu ymwelwyr i'r Sir – mae’n hanfodol bod ceisiadau yn dangos sut y bydd gan y digwyddiad fudd i’r sir gyfan, yn ogystal â manteision rhanbarthol a chenedlaethol ehangach.
- Datblygu a hyrwyddo digwyddiadau a phrofiadau lleol drwy gydol y flwyddyn sy'n annog pobl i ymweld â'r ardal leol a'i harchwilio. Rhaid i geisiadau ddangos sut y bydd y digwyddiad yn gwneud gwahaniaeth i unigolion, cymunedau a'r economi leol.
- Cefnogaeth ar gyfer y celfyddydau lleol, treftadaeth ddiwylliannol a gweithgareddau creadigol.
- Cefnogi twf busnesau cysylltiedig (buddion busnes anuniongyrchol) a datblygu swyddi sydd o werth uwch.
- Cefnogi uchelgeisiau ynghylch newid yn yr hinsawdd neu'r newid i economi werdd trwy gynaliadwyedd a lleihau gwastraff.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am yr adran Economi ac Adfywio: "Mae'r cyllid hwn yn gyfle i adeiladu ar y digwyddiadau sydd eisoes wedi digwydd yn y sir fel Lleisiau Eraill Aberteifi 2024 a digwyddiadau sy'n parhau i ddychwelyd i'r sir fel Rali Ceredigion. Dylai busnesau, gwirfoddolwyr a sefydliadau yng Ngheredigion fanteisio ar y cyfle ac ystyried sut y gallent dyfu a datblygu digwyddiad uchelgeisiol, perthnasol a phriodol i'w gynnal yn y sir yn y blynyddoedd i ddod."
Mae dau becyn cyllid ar gael:
- Grant digwyddiadau bach (lleiafswm o £2,000 – uchafswm o £10,000)
- Grant digwyddiadau mawr (lleiafswm o £30,000)
Mae’n angenrheidiol bod yr holl weithgarwch wedi’u gwblhau a'r cyllid wedi ei hawlio erbyn 31 Ionawr 2026.
Bydd y grant yn darparu cymorth ariannol tuag at wariant refeniw a rhywfaint o wariant cyfalaf ar raddfa fach. Bydd y grant yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae gwneud cais yn broses gystadleuol a bydd arloesedd, canlyniadau ac effaith a gwerth am arian yn ffactor allweddol pan gaiff prosiectau eu gwerthuso.
Er mwyn sicrhau cymhwysedd y prosiect, darllenwch y nodiadau canllaw yn ofalus cyn dechrau ar y ffurflen gais.
Mae CFfGDU 2025-2026 yn biler canolog ar agenda uchelgeisiol Llywodraeth y DU ac yn elfen sylweddol o'i chefnogaeth i leoedd ledled y DU.
Cewch fwy o wybodaeth am sut y gallwch gyflwyno cais drwy fynd at www.ceredigion.gov.uk/busnes/cyllid-a-grantiau/cronfa-rhaglen-digwyddiadau-cynnal-y-cardi/