Cymorth ARFOR yn dwyn ffrwyth yng Ngheredigion
Mae nifer o gwmnïau ac unigolion wedi elwa’n fawr ar gymorth rhaglen ARFOR.
Mae’r rhaglen, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi bod yn gweithredu yng nghadarnleoedd traddodiadol yr iaith Gymraeg yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd ac Ynys Môn, gan roi cymorth entrepreneuriaeth a datblygiad economaidd i gynnal a galluogi’r Gymraeg i ffynnu drwy ymyriadau economaidd.
Un cwmni sydd wedi elwa ar y rhaglen yw Ani-bendod, sef cwmni sy'n gwerthu dillad, anrhegion a deunydd ysgrifennu Cymreig. Sefydlwyd y busnes yn 2018 gan Anwen James o bentref Tal-y-bont yng Ngheredigion. Dechreuodd Anwen y fenter yn gwerthu siwmperi Cymreig ac erbyn hyn mae’n gwerthu dillad amrywiol gyda dywediadau Cymraeg wedi eu brodio neu eu hargraffu. Yn ogystal â hyn, mae amrywiaeth eang o anrhegion ar gael, gyda dewis eang o nwyddau wedi'u personoli.
Bu Anwen yn llwyddiannus yn ei chais am gefnogaeth gan y Cyngor Sir drwy ARFOR a derbyniodd gefnogaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU) drwy Gronfa Cymorth Busnes Cynnal y Cardi, Cyngor Sir Ceredigion. Dyma gronfa ganolog â ariennir gan Lywodraeth y DU i feithrin balchder mewn lle a gwella cyfleoedd bywyd ledled y DU. Mae Anwen James, sylfaenydd a pherchennog Ani-bendod yn mynd o nerth i nerth gyda’r busnes sydd wedi’i leoli ar fferm deuluol ei gŵr ym Mronant, ger Tregaron.
Ehangwyd y busnes drwy adeiladu gweithdy pwrpasol, storfa a datblygwyd elfen dechnolegol y busnes gydag offer arbenigol i allu gweithio’n fwy effeithiol, gan ddefnyddio adeiladwyr, seiri ac arbenigwyr technegol lleol a chefnogi’r economi leol.
Yn ôl Anwen: “Mae’r gefnogaeth yma wedi galluogi i ni fel teulu i fedru creu bywoliaeth yn ein cymuned gan sicrhau dwy swydd llawn amser gyda’r gobaith o ehangu ar hyn yn y dyfodol. Rydym yn medru ffermio law yn llaw â rhedeg busnes yng nghefn gwlad.”
Mae’r busnes yn Gymreig iawn ei naws ac yn adlewyrchiad o’i gwreiddiau gwledig yng Ngheredigion gan ddefnyddio geirfa dafodieithol wedi eu brodio ar y dillad. Er mai siop ar-lein ydy Ani-bendod gyda bron i 6,000 o archebion ar y We yn unig y llynedd, mae modd ymweld â’u stondin blynyddol yn y Sioe Amaethyddol Frenhinol yn Llanelwedd, Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Elfen arall o’r busnes yw’r gwasanaeth brodio pwrpasol ar gyfer busnesau, sefydliadau a chlybiau lleol sydd o fudd i’r gymuned gyfan.
Mae’r Gymraeg yn elfen hanfodol ac yn rhan annatod o Ani-bendod ac mae eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg gyda’r ‘Cynnig Cymraeg’. Mae’r cwmni yn gweithio law yn llaw â Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan flaenllaw o’r busnes. Mae’r gweithle hefyd yn rhoi cyfle i unigolion weithio yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg sy’n gallu bod yn brofiad prin. Mae hyn yn elfen annatod o’r busnes gan mai siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yw ei marchnad darged ac felly, mae ei chynnyrch yn uniaith Gymraeg. Gyda phroffil cyfryngau cymdeithasol sylweddol, mae Ani-bendod yn arddangos agwedd bositif tuag at yr iaith ac yn codi ymwybyddiaeth. Mae llawer o bobl ddi-Gymraeg yn prynu ei dillad (sy’n ddywediadau Cymraeg i gyd) ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar yr iaith. Yn bresennol mae Ani-bendod yn gwerthu nwyddau ar draws Cymru gyfan, y Deyrnas Unedig, ac yn fyd-eang.
Drwy elfen gyrfaol ARFOR mae Ani-bendod wedi llwyddo i gyflogi prentis llawn amser. Y cam nesaf fydd agor siop o fewn yr adeilad newydd ar y fferm, er mwyn gwahodd cwsmeriaid i gasglu eu harchebion, ymweld â’r gweithdy a phrynu wyneb yn wyneb. Mae Ani-bendod eisoes yn derbyn ymweliadau gan glybiau ffermwyr ifanc, ysgolion, canghennau Merched y Wawr a chlybiau ieuenctid.
Ychwanegodd Anwen: “Gobeithiaf y bydd hwn yn brofiad unigryw ac yn cynnig ysbrydoliaeth i unigolion sydd am ddechrau busnes eu hunain. Dwi hefyd wedi gweithio gyda ‘Llwyddo’n Lleol’ i gynnig cyngor a chefais fy ngwahodd fel siaradwr i sôn am fy musnes.”
Mae’r busnes hefyd yn ateb galwadau i leihau allyriadau carbon, drwy alluogi Anwen a’i theulu i fyw a gweithio dafliad carreg o'i gilydd gyda’r plant yn mynychu’r ysgol leol.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: "Cwmnïau bychan cynhenid yw asgwrn cefn ein diwydiant ni yma yng Ngheredigion. Mae’n braf clywed am lwyddiant un o frodorion y sir sy’n rhoi Ceredigion a Chymru ar y map, a sydd gyda chefnogaeth y cynllun ARFOR yn cynnig cyfleoedd am swyddi i eraill ac yn cefnogi busnesau lleol wrth ymestyn y busnes. Dymuniadau gorau i ti Anwen, a phob llwyddiant i ti."
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans AS: “Cynlluniwyd y rhaglen ARFOR i gefnogi busnesau fel Ani-bendod sydd nid yn unig yn cyfrannu at yr economi leol ond hefyd yn helpu i gynnal a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Mae llwyddiant Anwen yn ysbrydoliaeth, gan greu swyddi a chyfleoedd yn ei chymuned tra hefyd yn dathlu ein diwylliant ieithyddol a diwylliannol cyfoethog mewn ffordd arloesol iawn.”
Os ydych chi’n rhedeg busnes yng Ngheredigion ac eisiau gwybod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael trwy’r Cyngor Sir, cysylltwch â ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk