Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cau Amgueddfa Ceredigion oherwydd atgyweiriadau hanfodol

Bydd Amgueddfa Ceredigion yn cau ei drysau am gyfnod o waith atgyweirio a chynnal a chadw hanfodol o 19 Mai 2025 ymlaen.

Bydd yr amgueddfa ar gau ar gyfer y cyfnod hwn er mwyn sicrhau diogelwch ymwelwyr a staff ac er mwyn caniatáu i’r contractwyr adeiladu gwblhau’r gwaith ar yr adeilad rhestredig Gradd 2 yn effeithlon. Disgwylir i’r amgueddfa ailagor yng Ngwanwyn 2026.

Mae’r gwaith atgyweirio yn cynnwys to newydd, atgyweirio i’r nenfwd crog hardd ac ail-blastro waliau sydd wedi’u difrodi.

Bydd y caffi a Chanolfan Groeso boblogaidd yr Amgueddfa a’r siop yn parhau ar agor yn ystod y gwaith atgyweirio.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am Ddiwylliant: “Mae’r gwaith atgyweirio yn hanfodol i sicrhau dyfodol yr adeilad arbennig a  phoblogaidd hwn sy’n gartref i’r Amgueddfa yn Aberystwyth. Mae’n adeilad sydd wedi gofrestru Gradd 2 a bydd y gwaith atgyweirio yn cael ei wneud yn ofalus er mwyn i genedlaethau’r dyfodol fwynhau ymweld a’r creiriau, i fynychu digwyddiadau a chyngherddau gwych ac arddangosfeydd arobrin. Rwy’n hyderus bydd drysau’r Amgueddfa yn agor cyn gynted â phosib a bydd yna groeso cynnes unwaith eto i bawb."

Agorwyd ym 1905 fel theatr amrywiaeth ac fe’i thrawsnewidiwyd yn sinema yn 1933, a daeth yn ganolfan adloniant nes iddi gau ym 1977. Mae llawer o ymwelwyr lleol yn cofio gweld ffilmiau clasurol yn yr awyrgylch cofiadwy, gyda’r ddraig o ddynes, y perchennog Mrs Gale yn goruchwylio’r cyfan, yn enwedig y rhai oedd yn eistedd yn y cefn!

Tra bydd yr Amgueddfa ar gau, bydd staff yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau a fydd yn rhoi cyfle i bobl fwynhau’r gwrthrychau o’r casgliadau unigryw.

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ddilyn yr Amgueddfa ar y cyfryngau cymdeithasol; Amgueddfa Ceredigion Museum ar Facebook, @CeredigionMus a4 X a amgueddfa_ceredigion_museum ar Instagram. Fel arall, ewch i’r Ganolfan Groeso am y newyddion diweddaraf.