Skip to main content

Ceredigion County Council website

Yr alwad olaf am enwebiadau ar gyfer gwobrau cymunedol a busnes Ceredigion

Wythnos yn unig sydd gan fusnesau, prosiectau cymunedol ac entrepreneuriaid yng Ngheredigion i gyflwyno eu ceisiadau ar gyfer Gwobrau Caru Ceredigion 2024 y mae disgwyl mawr amdanynt.

Mae’r ceisiadau’n cau ddydd Mercher 13 Tachwedd, gyda’r gwobrau’n cydnabod cyfraniadau a llwyddiannau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol, ac unigolion ar draws y Sir.

Mae’r gwobrau’n cynnwys 12 categori, yn amrywio o arloesi yn y gymuned, i gydnabod entrepreneuriaid ifanc, y diwydiant twristiaeth, digwyddiadau llwyddiannus, a busnesau sy’n cefnogi’r Gymraeg.

Wrth siarad am yr alwad olaf am enwebiadau, dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio: "Rydyn ni wrth ein bodd gyda'r ymateb anhygoel a'r safon uchel o geisiadau rydyn ni wedi'u derbyn hyd yn hyn. Mae'r Sir yn gartref i fusnesau rhagorol, entrepreneuriaid ifanc, a phrosiectau cymunedol bywiog, ac mae'r gwobrau hyn yn rhoi llwyfan gwych i ddathlu'r gwaith rhyfeddol sy’n cael ei wneud.

“Byddwn yn sicr yn annog grwpiau i ystyried ymgeisio, neu enwebu rhywun maen nhw’n credu sy’n haeddiannol, gan fod hwn yn gyfle gwych i gydnabod a dathlu rhagoriaeth yng Ngheredigion.”

Mae’r gwobrau’n cael eu trefnu gan Cynnal y Cardi o dan faner Caru Ceredigion. Mae Caru Ceredigion yn ymgyrch gymunedol gyda’r nod o feithrin ymdeimlad o falchder yn y Sir, tra’n annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gwella’r amgylchedd, yn cefnogi busnesau lleol, ac yn cryfhau’r gymuned.

Yn y cyfamser, mae Cynnal y Cardi, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn gweithio i helpu i hybu’r economi a mynd i’r afael â rhai o’r heriau mae pobl a mentrau’n eu hwynebu, gyda ffocws ar ddatblygu cyfleoedd i helpu’r economi i dyfu a ffynnu.

Mae'r rhestr lawn o gategorïau a meini prawf cymwys i'w gweld ar wefan Cyngor Sir Ceredigion. Bydd y beirniadu’n digwydd ym mis Tachwedd gan banel o feirniaid arbenigol, gyda rhestr fer yn cael ei chyhoeddi cyn i’r enillwyr gael eu datgelu mewn seremoni ar 12 Rhagfyr 2024. Manylion pellach yma: www.ceredigion.gov.uk/busnes/gwobrau-caru-ceredigion/