Sioe Deithiol Haf gyntaf Ceredigion yn llwyddiant mawr
Daeth dros 400 o bobl ifanc, plant a theuluoedd ledled y sir i Sioe Deithiol Haf gyntaf Cyngor Sir Ceredigion yng Nghanolfan Hamdden Plascrug, Aberystwyth ar 26 Gorffennaf 2024.
Roedd y gweithgareddau am ddim yn cynnwys celf a chrefft, gemau, dawnsio a chwaraeon gan gynnwys nifer o stondinau gwybodaeth o wasanaethau Ceredigion fel y Gwasanaeth Ieuenctid, Ceredigion Actif, Gofalwyr Ceredigion a phartneriaid trydydd sector. Derbyniwyd cefnogaeth gan gyllid ‘Cynnal Y Cardi’ i gefnogi’r digwyddiadau rhad ac am ddim i’n cymunedau.
Nod y Sioeau Teithiol yw darparu gweithgareddau am ddim i blant a phobl ifanc yn y Sir dros gyfnod yr haf. Mae cwpl o sioeau teithiol eraill wedi'u trefnu ar gyfer:
- Dydd Mercher 14 Awst, 10am - 2pm, Canolfan Hamdden Aberteifi
- Dydd Iau 22 Awst, 10am - 2pm, Canolfan Lles Llambed.
Dywedodd Greg Jones, Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Porth Cymorth Cynnar: “Roedd yn bleser gweld teuluoedd a phlant o ystod oedran eang yn mwynhau’r gweithgareddau. Hefyd rhoddodd gyfle i'r rhieni gael gwybod am wasanaethau defnyddiol sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor yn ogystal â chwrdd â’r gwasanaethau partner a fynychodd. Roedd y diwrnod yn dystiolaeth bod angen i ni ddarparu’r math hwn o ddigwyddiad i helpu teuluoedd i ddiddanu eu plant dros yr haf, ond hefyd i wneud pobl yn ymwybodol o wasanaethau ehangach y cyngor sydd ar gael iddynt.”
Y Cynghorydd Wyn Thomas yw’r Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am Ddysgu Gydol Oes. Dywedodd: “Mae Sioe Deithiol yr haf, sy’n cael ei drefnu gan swyddogion Porth Cymorth Cynnar, yn fenter i’w chroesawu’n fawr. Mae’n rhoi cyfle gwerth chweil i blant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws y sir gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous dros wyliau’r haf. Mae’r ymateb wedi bod yn wych gyda dros 400 yn bresennol yn y sioe gyntaf a gynhaliwyd ym Mhlascrug yn ddiweddar. Diolch i adran Porth Cymorth Cynnar am drefnu’r sioe deithiol sydd yn rhoi cyfle i rieni weld beth all y cyngor sir ei gynnig i helpu teuluoedd gan ystyried yr heriau ariannol sy’n gwynebu cynghorau ar hyn o bryd. Bydd croeso cynnes i bawb yn y ddwy sioe nesaf yn Aberteifi a Llambed.”
Dywedodd Jane Howell, rhiant a fynychodd: “Mae’n ddigwyddiad gwych am ddim, roedd fy nheulu wrth eu bodd â’r holl weithgareddau, maen nhw’n methu aros i fynychu rhywbeth tebyg eto. Roedd amrywiaeth y gweithgareddau yn wych, roedd pob un o'm tri phlentyn wrth eu bodd â'r diwrnod. Bodiau mawr i fyny gan y Teulu Howell. Diolch yn fawr iawn.”
Yn dilyn llwyddiant eleni, y gobaith yw gall y Sioeau Teithiol hyn ddod yn rhan o raglen haf blynyddol y Cyngor gyda’r nod o gynyddu’r ddarpariaeth i ardaloedd eraill hefyd yn y sir yn y dyfodol.