Sesiwn hawl i holi Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn Siambr y Cyngor
Cynhaliodd Cyngor Ieuenctid Ceredigion sesiwn cwestiwn ac ateb lwyddiannus yn Siambr y Cyngor ar 12 Gorffennaf 2024. Dyma’r seithfed flwyddyn i Gyngor Ieuenctid Ceredigion gynnal digwyddiad o’r fath.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i Gyngor Ieuenctid Ceredigion ofyn cwestiynau ynglŷn â materion sy'n effeithio ar bobl ifanc i banel o bobl sy’n dylanwadu a gwneud penderfyniadau.
Aelodau’r panel eleni oedd Ben Lake, AS; Elen James, Prif Swyddog Addysg, Cyngor Sir Ceredigion; Sara Jermin, Dirprwy Gomisiynydd a Phennaeth Ymgysylltu, Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru a’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.
O ganlyniad i ymgyrch ieuenctid ‘Rhoi dy Farn Ceredigion’ ym Mis Mawrth 2024, lle wnaeth dros 2000 o bobl ifanc lleol bleidleisio ar bynciau llosg oedd pwysicaf iddynt nhw, cafodd cyfres o gwestiynau eu paratoi a’u cyflwyno gan aelodau o’r Cyngor Ieuenctid. Roedd y cwestiynau yn tynnu sylw at faterion megis trafnidiaeth, yr argyfwng costau byw, iechyd meddwl a lles a thai fforddiadwy.
Dywedodd Aeron Dafydd, Aelod Seneddol Ieuenctid Ceredigion: “Mae'r digwyddiad llwyddiannus yma wedi bod yn gyfle da i bobl ifanc ledled Ceredigion ddatgan eu barn am faterion cyfoes. Roedd yn fraint gennyf gadeirio'r digwyddiad yma lle cafwyd amrywiaeth o ymatebion gan y panel. Mawr obeithiaf bydd y panelwyr yn ystyried barn pobl ifanc Ceredigion ac yn parhau i ymgynghori â'r ieuenctid.”
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Roedd hi’n bleser fod yn rhan o’r panel i drafod themâu pwysig sy’n effeithio ar bobl ifanc yn ein sir. Roedd safon ac aeddfedrwydd y drafodaeth yn eithriadol, sy’n galondid mawr at dyfodol Ceredigion.”
Cafodd y digwyddiad ei agor a’i gau gan Rosa Waby, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion 2023-24 a disgybl Ysgol Gyfun Penweddig. Yn arwain y digwyddiad oedd Aeron Dafydd, Aelod Seneddol Ieuenctid Ceredigion 2023-24 a disgybl Ysgol Bro Teifi.