Rhannwch eich barn ar y system bleidleisio yn etholiadau Cyngor Sir Ceredigion
Mae cyfle i breswylwyr rhannu eu barn ar y system pleidleisio yn etholiadau Cyngor Sir Ceredigion.
Ar hyn o bryd mae pob Cynghorydd yng Nghymru yn cael eu hethol gan ddefnyddio system fwyafrif syml, a elwir yn system gyntaf i'r felin (FPTP). Dyma'r system a ddefnyddir ar gyfer ethol Aelodau i'r Cyngor Tref a Chymuned, Llywodraeth Cymru, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a Senedd y DU.
Mae Cyngor Sir Ceredigion, fel siroedd eraill yng Nghymru wedi cael caniatâd gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i benderfynu a ydynt am aros gyda’r system gyntaf i’r felin bresennol neu a ddylid newid i system a elwir yn Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV).
Yn ystod cyfarfod Cyngor a gynhelir ddydd Iau 21 Mawrth 2024, penderfynwyd Cynghorwyr Ceredigion gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y newid posib i’r system bleidleisio ar gyfer etholiadau’r Cyngor Sir i’r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Os gwneir penderfyniad i newid i system bleidleisio Sengl Drosglwyddadwy, byddai hyn dim ond yn effeithio ar y system bleidleisio ar gyfer Aelodau Cyngor Sir Ceredigion.
I ddod o hyd i wybodaeth am sut mae’r ddwy system bleidleisio yn gweithio ac i rannu eich barn ar-lein ewch i www.ceredigion.gov.uk/your-council/consultations/ymgynghoriad-ar-system-bleidleisio-yn-etholiadau-cyngor-sir-ceredigion/
Mae copïau papur ar gael yn y lleoliadau canlynol:
• Llyfrgell Aberystwyth
• Llyfrgell Llambed
• Canolfan Lles Llambed
• Llyfrgell Aberaeron
• Llyfrgell Aberteifi
Bydd yr ymgynghoriad ar agor ar gyfer ymatebion tan 06 Medi 2024. Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd penderfyniad yn cael ei wneud gan y Cyngor.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies sy’n gyfrifol am Wasanaethau Etholiadol: “Rydym am i'r system bleidleisio fod mor hawdd â phosibl i'n preswylwyr gallu bleidleisio, felly cymrwch yr amser i rannu eich barn yn y broses ymgynghori.”
Os ydych eisiau derbyn yr ymgynghoriad mewn fformatau eraill fel Print Bras neu Hawdd ei Ddarllen, cysylltwch â’n Ganolfan Gyswllt CLIC ar 01545 570 881 neu drwy e-bost ar clic@ceredigion.gov.uk.