Skip to main content

Ceredigion County Council website

Rhannwch eich barn ar Bolisi Dyrannu Cyffredin Ceredigion

Gofynnir i drigolion am eu barn ar Bolisi Dyrannu Cyffredin drafft Cyngor Sir Ceredigion sy'n nodi cynnig y Cyngor ar gyfer dyrannu tai cymdeithasol yn y Sir.

Mae'r Polisi yn cydnabod y rôl bwysig y mae tai yn ei chwarae, ynghyd â'r dylanwad y mae'n ei gael ar iechyd a lles unigolion, teuluoedd a'r gymuned ehangach.  

Nodwyd heriau allweddol o fewn y Polisi presennol sydd wedi arwain at yr angen am newid yn y Polisi Dyrannu. Mae'r darlun cenedlaethol o'r argyfwng costau byw a'r newidiadau deddfwriaethol yn chwarae eu rhan wrth effeithio ar y materion lleol sy'n effeithio ar dai yng Ngheredigion. Mae angen i'r Cyngor feddwl am y defnydd o stoc tai cymdeithasol, tra'n parhau i wella amodau byw a chefnogi preswylwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Dai: "Mae tai yn rhywbeth sy'n effeithio ar bawb. Mae pawb angen rhywle i fyw ac mae gan bawb farn am sut y dylai hynny edrych a sut y gallant gael mynediad at dai yn eu hardaloedd penodol. Mae'r Polisi hwn yn edrych ar sut rydym yn bwriadu galluogi mynediad at dai cymdeithasol a'r heriau sy'n effeithio ar ein cymunedau. Mae'n nodi blaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer diwallu anghenion tai a gweithio gyda thenantiaid a thrigolion i adeiladu cymunedau cynaliadwy a chydlynol."

"Er bod gan randdeiliaid farn ynghylch beth yw'r blaenoriaethau a sut i gynnwys y rhain, mae'n bwysig iawn bod gennym farn cymaint o bobl â phosibl. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gan amrywiaeth o bobl."

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am 6 wythnos hyd at ddydd Gwener 15 Tachwedd 2024. 

Gall breswylwyr rannu eu barn ar-lein: www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/polisi-dyrannu-cyffredinol/. Gellir cael copïau papur mewn llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden sy'n eiddo i'r Cyngor.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad, neu os oes angen copi o'r Polisi Dyrannu Cyffredin Drafft a'r arolwg ymgynghori mewn fformat arall fel Hawdd ei Ddarllen, e-bostiwch localhousingstrategy@ceredigion.gov.uk.