Skip to main content

Ceredigion County Council website

Rali Ceredigion 2024: Ymgysylltu â’r Gymuned yn Dwyn Ysbryd y Rali i Ganolbarth a Gorllewin Cymru

Nid digwyddiad chwaraeon modur yn unig yw JDS Machinery Rali Ceredigion; mae’n ddathliad o gymuned, addysg a chynaliadwyedd. Yn ystod y cyfnod cyn penwythnos y rali ar 30 Awst i 01 Medi 2024, mae trefnwyr y rali wedi bod yn ymgysylltu ag ysgolion lleol a chymunedau i feithrin ymdeimlad o gyffro a chynnwys pobl.

Mae tîm JDS Machinery Rali Ceredigion wedi ymweld ag ysgolion niferus ar draws Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ac wedi lansio cystadleuaeth i ysgolion ennill hyd at £1,000 i’w wario ar brosiectau amgylcheddol. Yn ogystal, cynhelir cystadleuaeth i blant ddylunio un o’r ceir rali a fydd yn cystadlu yn y rali eleni. Bu ffocws yr ymweliadau hyn ar ddiogelwch, cynaliadwyedd a sut y gall preswylwyr ymwneud â’r digwyddiad.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion â chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio: “Yn Rali Ceredigion 2024, gwelwn gyfle gwych i uno ein cymunedau ac arddangos y gorau o Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Drwy ymgysylltu ag ysgolion a busnesau lleol, mae Rali Ceredigion nid yn unig yn meithrin ysbryd o gyffro a chydweithio ond hefyd yn pwysleisio ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a rhoi hwb i'n heconomi. Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle i roi ein hardal ar y map a thynnu sylw at gynigion unigryw ein rhanbarth i gynulleidfa fyd-eang."

Fel digwyddiad swyddogol ym Mhencampwriaeth Ralïo Ewropeaidd FIA, bydd Rali Ceredigion yn denu’r timau a’r gyrwyr ralïo gorau o bob cwr o’r byd, a fydd yn golygu y bydd cynulleidfa ryngwladol ehangach yn ymweld â’r ardal.

 Cyfle i gymryd rhan fel Busnes

Bydd mwy o ymwelwyr yn yr ardal, wyneb yn wyneb ac ar-lein, y gallai eich busnes chi gael budd gan hyn, boed hynny ar ffurf cynnydd mewn gwerthiant, archebion neu weithgarwch ymgysylltu. Mae busnesau lleol yn rhan annatod o JDS Machinery Rali Ceredigion, ac mae nifer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan. Dyma rai syniadau:

  • Ewch ati i greu saig yn seiliedig y Rali fel thema: Beth am gynnwys seigiau fel ‘Byrgyr Rali’ ar eich bwydlen.
  • Ffenestri siop sy’n seiliedig ar y rali fel thema: Addurnwch du blaen eich siop i adlewyrchu ysbryd y rali.
  • Cyfryngau cymdeithasol: Hyrwyddwch y rali ar eich sianelau cyfryngau cymdeithasol, rhannwch ddiweddariadau, ac ymgysylltwch â chyfrifon cyfryngau cymdeithasol swyddogol y rali a’r awdurdod lleol. #RaliCeredigion2024

Nid yn unig y mae’r mentrau hyn yn dangos ysbryd cymunedol, ond maent hefyd yn cynnig profiad unigryw i ymwelwyr, ac yn eu hannog i archwilio a chefnogi busnesau lleol.

"Bu gwylio’r rali y llynedd yn brofiad bythgofiadwy. Mae prydferthwch Canolbarth Cymru heb ei ail, ac roedd y bobl a’r busnesau lleol yn hynod o groesawgar. Rydw i’n edrych ymlaen yn eiddgar i ddychwelyd eleni a’i brofi unwaith eto!” – gwyliwr, Rali Ceredigion 2023

Mae JDS Machinery Rali Ceredigion yn fwy na ras yn unig; mae’n ddigwyddiad cymunedol sy’n dwyn pobl ynghyd, sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd, ac sy’n arddangos y gorau o Ganolbarth Cymru. Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan, boed hynny fel gwyliwr, gwirfoddolwr, neu gefnogwr busnes, trowch at www.raliceredigion.co.uk.

Cynlluniwch eich Ymweliad

Am fanylion cynhwysfawr am amserlen y digwyddiad, trefniadau cau’r ffyrdd, ac ardaloedd gwylio, trowch at www.raliceredigion.co.uk. Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau byw ac ymunwch â’r sgwrs gan ddefnyddio #RaliCeredigion2024. 

A fyddwch chi’n aros yn yr ardal yn hirach? Mae nifer o fannau prydferth i’w darganfod. Trowch at Darganfod Ceredigion  am ysbrydoliaeth yn ystod eich arhosiad, www.darganfodceredigion.cymru/.

Ymunwch â ni am benwythnos i’w gofio o gyffro ralïo, gan ddarganfod y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig gyda Rali Ceredigion 2024!

Noddir y digwyddiad gan Gyngor Sir Ceredigion ac fe’i ariannir yn rhannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.