Skip to main content

Ceredigion County Council website

Rali Ceredigion 2024: Sêr Ewropeaidd yn ymuno ar gyfer digwyddiad chwaraeon modur sy'n cwmpasu Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys

Bydd Pencampwriaeth Ralïo Ewropeaidd FIA yn dychwelyd i Gymru am y tro cyntaf mewn 28 mlynedd wrth i JDS Machinery Rali Ceredigion ddychwelyd eleni gyda llwybr newydd cyffrous sy'n cwmpasu tirluniau godidog Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys.

Cynhelir y rali eleni rhwng 30 Awst ac 1 Medi, bydd y digwyddiad yn denu cystadleuwyr gorau o bob cwr o'r byd, gyda llwybr ymestynnol a heriol a fydd yn cynnig profiad bythgofiadwy i'r cystadleuwyr a’r a'r gwylwyr.

Estynnir gwahoddiad i wylwyr ymuno yn y cyffro a’r dathliadau cymunedol. Caiff ardaloedd gwylio allweddol a pharthau cefnogwyr eu trefnu ar hyd trywydd y rali. Am fanylion am y mannau gorau i wylio a gwybodaeth am y tocynnau, trowch at wefan swyddogol Rali Ceredigion.

Eleni, nid yn unig y mae Rali Ceredigion yn bwriadu cynnig adloniant chwaraeon modur gwefreiddiol, ond bydd hefyd yn hyrwyddo cynaliadwyedd a thwristiaeth leol. Mae llwybr y rali yn arddangos harddwch naturiol a threftadaeth ddiwylliannol Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan annog ymwelwyr i archwilio’r rhanbarth a’i werthfawrogi. Ymdrechir hefyd i sicrhau bod y digwyddiad yn gyfeillgar i’r amgylchedd, gyda mentrau fel tanwydd hil carbon isel ac mae ganddo un o raglenni gwrthbwyso carbon mwyaf y byd ar gyfer digwyddiadau rali gan sicrhau bod y digwyddiad yn gwrthbwyso ac yn dal mwy o garbon y mae'n ei gynhyrchu trwy brosiectau amgylcheddol lleol a chenedlaethol.

Rali Ceredigion oedd y digwyddiad cyntaf yn y DU i gynnwys dosbarth penodol i gerbydau trydan a hon yw’r unig rali yn y DU sydd wedi llwyddo i sicrhau achrediad amgylcheddol llym FIA.

Fel rhan o fenter ‘Rali Engage’, mae Rali Ceredigion yn ymweld ag ysgolion yn yr ardal ac mae wedi lansio cystadleuaeth i ysgolion ennill hyd at £1,000 i’w wario ar brosiectau amgylcheddol. Yn ogystal, cynhelir cystadleuaeth i blant ddylunio un o’r ceir rali a fydd yn cystadlu yn y rali eleni.

Dywedodd Charlie Jukes, Cyfarwyddwr Digwyddiad Rali Ceredigion: “Rydym wrth ein bodd o ddwyn Rali Ceredigion i’r cymalau newydd a chyffrous hyn ac, drwy sylw estynedig y digwyddiad, creu ymwybyddiaeth fyd-eang o'r rhanbarth a gyrru cyfleoedd twristiaeth. Mae’r digwyddiad hwn yn ddathliad o chwaraeon modur ond hefyd, mae’n ddathliad o gymunedau bywiog a thirluniau godidog Cymru. Anogwn bawb i ymuno â ni a phrofi cyffro a harddwch y rali hon.”

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: “Mae Rali Ceredigion yn enghraifft wych o ddigwyddiad sy’n dwyn manteision economaidd yn ogystal â manteision ehangach i’n hardal. Rydym yn teimlo’n gyffrous i groesawu cynulleidfa ryngwladol fawr i ganolbarth a Gorllewin Cymru am ddigwyddiad sy’n amlygu ein hasedau naturiol. Mae’r digwyddiad hefyd ar daith gyffrous i roi hwb i’w gynaliadwyedd, gan gynnig esiampl o sut y gall digwyddiad o’r fath ysgogi perfformiad amgylcheddol wrth gynnig profiad mor wych i bobl leol ac ymwelwyr.”

Noddir y digwyddiad gan Gyngor Sir Ceredigion ac fe’i ariannir yn rhannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Bydd trefnwyr y rali ar gael i sôn am y digwyddiad mewn mwy o fanylder yn ystod Sioe Frenhinol Cymru eleni. Dewch i ddweud helo a chael copi o raglen y rali o stondin Cyngor Sir Ceredigion brynhawn ddydd Iai, 25 Gorffennaf (Stondin 477-E. Cyfeirnod grid: F4, y tu ôl i'r prif gylch).

Cynlluniwch eich Ymweliad 

Am fanylion cynhwysfawr am amserlen y digwyddiad, trefniadau cau’r ffyrdd, ac ardaloedd gwylio, trowch at www.raliceredigion.co.uk. Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau byw ac ymunwch â’r sgwrs gan ddefnyddio #RaliCeredigion2024.  

A fyddwch chi’n aros yn yr ardal yn hirach? Mae nifer o fannau prydferth i’w darganfod. Trowch at Darganfod Ceredigion  am ysbrydoliaeth yn ystod eich arhosiad, www.darganfodceredigion.cymru/

Ymunwch â ni am benwythnos i’w gofio o gyffro ralïo, gan ddarganfod y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig gyda Rali Ceredigion 2024!