Prosiect gardd Dysgu Bro yn hau hadau rhifedd a lles
Mae Dysgu Bro Ceredigion sy’n ddarparwr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, wedi partneru gydag Ysbyty Dydd Gorwelion yn Aberystwyth i gynnal sesiynau rhifedd ochr yn ochr â’u grŵp garddio sydd eisioes wedi’i sefydlu.
Mae’r prosiect garddio, sy’n rhedeg o fis Chwefror tan fis Tachwedd bob blwyddyn, yn ddarpariaeth ar gyfer cleientiaid yr Ysbyty, sy’n cyfarfod yn wythnosol i weithio yn yr ardd yn trin y pridd, yn plannu blodau a llysiau, ac yn cynaeafu’r cnydau pan fyddant yn barod. Mae'r ardd yn cael ei mwynhau gan y staff a’r cleientiaid.
Mae’r effeithiau cadarnhaol y mae garddio yn eu cael ar iechyd meddwl wedi’u dogfennu’n dda, gan gynnwys manteision megis gwell hwyliau, llai o straen a phryder, cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol a chysylltiad â natur, yn ogystal â llawer o effeithiau therapiwtig sy’n helpu pobl i ddelio ag amrywiaeth o faterion iechyd meddwl, gan gynnwys anhwylder straen ôl drawma (PTSD), iselder a dementia.
Yn ogystal â’r manteision iechyd meddwl, mae garddio hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd i wella sgiliau rhifedd. Mae’r prosiect ‘Multiply’, sydd wedi derbyn cyllid gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU i wella sgiliau rhifedd ymhlith oedolion wedi cydweithio â’r grŵp garddio. Mae mynychwyr y grŵp yn mwynhau’r sesiynau wythnosol yn fawr iawn, gydag un cyfranogwr yn dweud: “Mae dod i’r grŵp garddio wedi bod o fudd mawr i fy iechyd meddwl, ac rwy’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored, yn cymdeithasu ag eraill ac yn dysgu sgiliau newydd.”
Mae tiwtor Dysgu Bro, Liz Porter, wedi bod yn mynychu’r grŵp wythnosol ac yn ymgorffori sgiliau mathemateg yn y sesiynau i gynnwys mesur, llunio cynlluniau wrth raddfa, a chyfrifo costau hadau a phlanhigion ar gyfer y prosiect. Mae rhai o fynychwyr y grŵp yn gweithio i ennill cymhwyster rhifedd achrededig gan Agored Cymru hefyd. Dywedodd Liz: “Mae’r cyfranogwyr wedi gallu adnewyddu sgiliau rhifedd efallai nad ydynt wedi’u defnyddio ers peth amser ac wedi cefnogi ei gilydd. Rwyf wrth fy modd y bydd cymaint yn cyflawni eu cymhwyster. Gwaith gwych, pawb!”
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’n wirioneddol galonogol gweld y cydweithio rhyfeddol rhwng Dysgu Bro ac Ysbyty Dydd Gorwelion. Mae integreiddio sesiynau rhifedd i’r prosiect garddio therapiwtig yn dyst i ysbryd arloesol ein cymuned a’n hymrwymiad i les. Mae’r fenter hon yn dangos yn hyfryd sut y gallwn blethu cymorth iechyd meddwl â thwf addysgol, gan greu amgylchedd anogol i bawb sy’n cymryd rhan. Mae hon yn enghraifft ddisglair o sut y gall prosiectau a arweinir gan y gymuned gael effaith ddofn, a chymeradwyaf yn galonnog bawb sy’n gysylltiedig am eu hymroddiad a’u gwaith caled. Da iawn, wir!”
Mae tîm ‘Multiply’ Dysgu Bro yn awyddus i glywed gan unrhyw unigolion neu aelodau o grwpiau lleol, neu sefydliadau a hoffai elwa ar gymorth rhifedd ychwanegol. Os oes angen cymorth rhifedd arnoch, cysylltwch â admin@dysgubro.org.uk am ragor o wybodaeth.