Skip to main content

Ceredigion County Council website

Preswylydd o Geredigion yn sicrhau cyflogaeth yn dilyn cymorth cynllun Cymunedau am Waith+

Mae dyn ifanc 20 oed o Geredigion wedi sicrhau cyflogaeth gyda chwmni adeiladu, LJV Ltd, ar ôl ei gyfnod o brofiad gwaith (gyda thâl) drwy Dîm Cymorth Cyflogadwyedd Ceredigion.

Cafodd Morgan Edge ei gyfeirio at Dîm Cymorth Cyflogadwyedd Cyngor Sir Ceredigion ym mis Medi 2023. Cafodd ei gofrestru ar gyfer y prosiect Cymunedau am Waith+ a ariennir gan Lywodraeth Cymru a dyrannwyd mentor cymorth Cyflogadwyedd iddo.

Dangosodd Morgan frwdfrydedd tuag at wella ei ddyfodol ac roedd yn awyddus i sicrhau rôl barhaol yn y diwydiant adeiladu. Oherwydd ei ddiffyg profiad gwaith a'i gymhwyster perthnasol, profodd hyn i fod yn rwystr ond gyda chefnogaeth ei fentor, nodwyd mai cwblhau'r Cynllun Tystysgrif Sgiliau Adeiladu (CSCS) fyddai'r cam cyntaf. 

Dechreuodd Morgan ar ei gwrs Iechyd a Diogelwch CITB yn y diwydiant Adeiladu a llwyddodd i gael cerdyn gweithiwr.

Ar ôl cofrestru gyda nifer o asiantaethau adeiladu, nid lwyddodd Morgan i gael swydd. Yna cafodd ei gyfeirio at y swyddog Datblygu Cyflogaeth o fewn y tîm i drafod yr opsiwn o gyfle ‘gwaith â thâl’ a fyddai'n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Roedd LJV Ltd, sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar adnewyddu adeilad y Brifysgol ar bromenâd Aberystwyth i fod yn "ganolfan ddiwylliannol a chreadigol bwysig i Gymru" yn awyddus i gydweithio â’r Cyngor i gynnig lleoliad gwaith i Morgan am 6 wythnos gyda'r bwriad y bydd yn cael cynnig swydd barhaol yn dibynnu ar ei berfformiad.

Darparodd y Tîm Cymorth Cyflogadwyedd gyfarpar diogelu personol (PPE) iddo cyn dechrau ar ei leoliad gwaith a darparwyd cymorth parhaus trwy gydol y cyfnod.

Ym mis Mai 2024, dechreuodd Morgan yn ei lleoliad gwaith a ddaeth hyn i ben ganol mis Gorffennaf. Gan ei fod wedi dangos ymrwymiad a pherfformiad gwych, cynigiwyd swydd barhaol i Morgan gyda LJV Ltd. Dywedodd: "Roedd y Cynllun yn well nag yr oeddwn i'n disgwyl. Mae’r tîm cymorth cyflogadwyedd wedi trefnu swydd ran-amser am gyfnod penodol i mi sydd bellach wedi troi yn swydd llawn amser. Mae'r cynllun wedi rhoi'r cymwysterau a'r offer angenrheidiol i mi. Rwy'n falch o fod yn rhan o dîm LJV Ltd ac yn mwynhau bod yn rhan o amgylchedd gweithgar da."

Dywedodd Catherine, Mentor Morgan: “Fel tîm, ni allem fod yn hapusach i Morgan a'r cynnydd y mae wedi'i wneud. Mae ei lwyddiant yn dangos effeithiolrwydd y prosiect o ran grymuso unigolion a meithrin cyfleoedd ystyrlon.”

Dywedodd Shaun o LJV Ltd: "Mae Morgan yn weithiwr caled iawn. Mae'n gweithio'n dda o fewn y tîm, ac mae bob amser yn rhoi ei gorau yn ei gwaith. Mae'n helpu'r bechgyn i gyd ac mae'n dysgu am bob agwedd o’r gwaith rydyn ni'n ei wneud."

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: "Mae hyn yn newyddion gwych i Morgan, da iawn yn wir. Ers Mis Ebrill 2024, mae'r tîm Cymorth Cyflogadwyedd wedi cefnogi 47 o breswylwyr yng Ngheredigion i gael gwaith. Os ydych chi'n meddwl y gallech chi neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod elwa o'r cynllun, cysylltwch â'r tîm."

I gael gwybod mwy am y gwasanaethau rydym yn eu darparu yng Ngheredigion, e-bostiwch TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633422. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol: Cymorth Gwaith Ceredigion Work Support ar Facebook a @CymorthGwaithCeredWorkSupport ar Instagram.