Penweddig yn cipio’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Menter Ifanc y Deyrnas Unedig
Bu dathlu mawr yn Ysgol Gyfun Gymraeg Penweddig yn dilyn ennill y wobr gyntaf drwy Brydain gyfan ymysg 13 tîm yng nghystadleuaeth datblygu busnes Menter Ifanc. Yn ennill dwy wobr am ‘Defnydd orau o Dechnoleg ac Arloesi’ a ‘Cwmni’r Flwyddyn’.
Aeth criw o ddisgyblion o flynyddoedd 10 a 12, sef Tîm ‘Llanw’, ati i gynhyrchu llyfr ryseitiau “Sbarion - Datrysiad i Wastraff”, sy’n cynnig syniadau gwych ar gyfer defnyddio sbarion, er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw yn ogystal â lleihau’r effaith niweidiol ar yr amgylchedd.
Mae’r llyfr wedi’i gyhoeddi’n ddwyieithog, ond mae ynddo hefyd ddatblygiadau arloesol. Trwy glicio ar godau QR gellir cael mynediad at flogiau sydd wedi’u cynhyrchu gan y disgyblion hyn, ac sy’n cael ei diweddaru o dro i dro gyda fideos lle gallwch gyd-goginio gyda’r disgyblion.
Mae’r Rhaglen Cwmni yn cynnig y cyfle dros o leiaf 12 wythnos i ddisgyblion sefydlu a chynnal cwmni myfyrwyr dan arweiniad Cynghorwyr Busnes neu athro. Y disgyblion sy’n gwneud yr holl benderfyniadau, o enwi eu cwmni, rheoli’r cyllid, a gwerthu i’r cyhoedd. Mae’r cyfranogwyr yn cael profiad busnes ymarferol a sgiliau allweddol ar gyfer bywyd gwaith. Mae’r cwmni yna’n cael y cyfle i gystadlu gan baratoi adroddiad busnes cynhwysfawr, cyfweliad a phanel o feirniaid a chyflwyniad.
Yn dilyn y llwyddiant hwn, fe fydd y disgyblion yn mynd yn eu blaen i gystadlu yn y rownd Ewropeaidd a gynhelir yn Sisili yn fis Gorffennaf. Gobeithio fod eich pasbort gyda chi yn barod i fynd!
Dywedodd Clive Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros Wasanaethau Ysgolion: “Dwi mor falch i glywed am lwyddiant anhygoel y disgyblion ifanc hyn. Mae Ceredigion fel sir ar ei hennill yn sgil menter a llwyddiant busnesau bach llewyrchus, ac mae’n braf clywed fod ein cenhedlaeth nesaf yn parhau yn y traddodiad hwn ac yn dangos i’r byd y fath sgiliau, arloesedd a gallu sydd gan y disgyblion hyn. Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl staff a rhieni sydd wedi bod yn gefn i’r disgyblion yn eu hannog a’u cefnogi yn y fenter hon.”