Llwyddiant i Raglenni Haf Bwyd a Hwyl 2024
Cymerodd 201 o ddisgyblion Ceredigion ran yng Nghynllun Bwyd a Hwyl y Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yr haf hwn.
Eleni, bu Ysgol Comins Coch, Ysgol Gymunedol Plascrug, Ysgol Llwyn yr Eos, Ysgol Bro Pedr, Ysgol T Llew Jones ac Ysgol Gynradd Aberteifi i gyd yn cynnal y rhaglen yn eu hysgolion yn ystod gwyliau’r haf.
Mae’r Cynllun Bwyd a Hwyl, sef menter a ariennir gan CLlLC, yn rhaglen addysg yn yr ysgol sy’n darparu addysg am fwyd a maeth, gweithgarwch corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau bwyd iach i blant, yn rhad ac am ddim, yn ystod gwyliau’r haf.
Bu’r chwe ysgol yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion a Thîm Dieteteg Bwrdd Iechyd Hywel Dda, er mwyn croesawu dros 200 o blant ynghyd â’u teuluoedd i ymuno yn gynllun yn ystod yr haf. Rhedodd bob rhaglen am dair wythnos, gan gynnig amserlen gyffrous o weithgareddau a phrydau iach i’r plant. Ar ddiwedd pob wythnos, roedd cyfle i deuluoedd ymuno â’u plant yn yr ysgol am ginio teulu. Cymerodd y disgyblion ran mewn gweithgareddau megis pêl-droed, chwaraeon aml-sgiliau, hoci, rygbi, criced, dawns, celf a chrefft, nofio, blasu bwyd, crefftau natur, garddio, chwarae, cwrdd ag adar ysglyfaethus a mwy.
Y Cynghorydd Wyn Thomas yw Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dywedodd: “Cefais gyfle i ymweld â’r Cynllun Bwyd a Hwyl mewn tair ysgol yn ystod yr haf. Roedd yn wych gweld y plant yn cael cymaint o hwyl ac roedd y cinio teulu hefyd yn llwyddiant. Roedd y cynllun yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i blant gael hwyl, cymdeithasu a dysgu am eu hiechyd a'u lles. Mae’r cynllun hwn wedi bod yn llwyddiannus wrth bontio’r bwlch ar gyfer llawer o ddisgyblion dros wyliau’r haf ac mae’n dda gweld y cynllun wedi tyfu o un ysgol y llynedd, i chwe yn cymryd rhan eleni, gyda chymaint o blant a phobl ifanc yn elwa.”
Dywedodd Mr Berian Lewis, Pennaeth Ysgol Gymunedol Plascrug: “Roedd yn wych gallu cynnig y cynllun Bwyd a Hwyl i ddisgyblion Ysgol Plascrug yn ystod gwyliau’r haf eleni. Roedd hefyd yn braf gweld rhai o deuluoedd yr ysgol yn ymuno am giniawau teulu fel rhan o’r cynllun, a’r plant yn mwynhau brecwast a chinio maethlon bob dydd. Yn aml gall gwyliau’r haf deimlo fel amser hir i blant ac felly gwelsom werth mewn rhedeg y cynllun hwn i deuluoedd. Cafodd disgyblion o flwyddyn 2 i 5, gyfle i ddysgu sgiliau a chael profiadau newydd gyda’u ffrindiau. Bu’r staff yn brysur yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau diddorol i’r plant gan gynnwys plannu llysiau a pherlysiau, dysgu am yr amgylchedd gydag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, gweithdai cerddoriaeth, gemau blasu bwydydd newydd â phob math o chwaraeon.”
Dywedodd plentyn a fynychodd y rhaglen mewn un ysgol: “Rydw i wir wedi cael llawer o hwyl. Mae fy sgiliau wedi gwella'n fawr wrth ddod yma. Roedd yn fy ngwneud i'n hapus ac mae'n hwyl. Rydyn ni i gyd wrth ein bodd yma. Rwy’n adnabod llawer o ffrindiau a dysgais lawer am ffrwythau.”
Dywedodd un rhiant: “Syniad hyfryd! Mae'r plant wedi mwynhau’n fawr. Rhoddodd y cinio teuluol deimlad da o gymuned i orffen.”
Gyda rhiant arall yn nodi: “Mae'r cynllun hwn wedi bod yn wych. Mae fy mab wedi cael amser hyfryd ac mae wedi ei gadw'n brysur. Mae wedi bod wrth ei fodd yn cael y cyfle i fynd i nofio bob wythnos, ac i chwarae llawer o chwaraeon a gwneud gweithgareddau newydd.”
Ychwanegodd Salim Aroussi, Cydlynydd Bwyd a Hwyl Ysgol Bro Pedr: “Rwy’n falch iawn o fod wedi gallu bod yn rhan o brosiect Bwyd a Hwyl gyntaf Ysgol Bro Pedr. Roedd yn brofiad gwych a gyflawnodd bopeth yr oedd yn ei fwriadu a mwy. Mae’r adborth a gafwyd gan y plant a gymerodd ran, y teuluoedd a bu ynghlwm, y staff a helpodd i’w redeg, a’r gymuned ehangach wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr ac yn gobeithio gwneud y cyfan eto’r flwyddyn nesaf.”
Hoffai’r Cyngor ddiolch i’r holl ddarparwyr fu’n ynghlwm â’r gweithgareddau, i Wasanaeth Arlwyo’r Awdurdod Lleol am baratoi brecwast a chinio iach a blasus yn ddyddiol ar gyfer y plant a’u teuluoedd, ac i’r chwe ysgol a’u staff a fu’n rhedeg y rhaglen, am eu gwaith caled yn paratoi’r cyfle gwerthfawr hwn i’w disgyblion o fewn eu cymunedau.
Am ragor o wybodaeth am Gynllun Bwyd a Hwyl genedlaethol CLlLC ewch i 'Bwyd a Hwyl' Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP) - CLILC (wlga.cymru)