Skip to main content

Ceredigion County Council website

Llwyddiannau Safon Uwch yn ysgolion Ceredigion

Mae’r canlyniadau Safon Uwch a gyhoeddwyd heddiw gan CBAC yn dangos bod ysgolion Ceredigion, unwaith eto, yn cyrraedd safonau uchel.

Mae 99% o’r ymgeiswyr a safodd arholiadau CBAC wedi derbyn graddau A*-E; 79% wedi ennill graddau A*-C; 57% wedi ennill graddau A*-B a 30% yn ennill graddau A*-A.

Datganodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Gwasanaeth Ysgolion: "Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr ar eu canlyniadau Lefel A, BTEC, ac UG rhagorol! Mae eich gwaith caled, eich ymroddiad a'ch gwytnwch wedi talu ar ei ganfed. Mae pob un ohonoch wedi dangos penderfyniad ac ymrwymiad rhyfeddol, ac rydym yn hynod falch o'ch cyflawniadau .

“Mae’r canlyniadau hyn yn dyst o’ch dyfalbarhad a chefnogaeth eich teuluoedd/gwarchodwyr, athrawon, a ffrindiau. Wrth i chi gymryd y camau nesaf yn eich teithiau addysgol a phroffesiynol, cofiwch mai megis dechrau yw hyn. Bydd y sgiliau a’r wybodaeth yr ydych wedi’u hennill yn sylfaen gadarn ar gyfer eich ymdrechion yn y dyfodol.”

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r ffigurau cymharol. Nid yw canlyniadau hyn yn cynnwys Bagloriaeth Cymru. Mae ffigurau Cymru yn cynnwys pob bwrdd arholi tra bod ffigurau Ceredigion yn cynnwys CBAC yn unig. 

 

Ceredigion

Cymru

Gradd A*-A

30%

30%

Gradd A*-B

57%

n/a

Gradd A*-C

79%

n/a

Gradd A*-E

99%

97%

 

Ychwanegodd Elen James, Prif Swyddog Addysg Ceredigion: “Llongyfarchiadau i holl ddysgwyr Ceredigion ar ganlyniadau Safon Uwch, BTEC ac UG ardderchog eleni eto. Rydym yn hynod falch o’u hymroddiad, mae eu gwaith caled, eu huchelgais a’u dyflbarhad wedi arwain at ganlyniadau rhagorol a haeddiannol iawn.

“Diolch i’r holl athrawon a staff am eu hymrwymiad a’u hymdrechion i ddarparu’r profiadau addysgol gorau i’n dysgwyr ni a diolch hefyd i’r holl deuluoedd/gwarchodwyr am eu cefnogaeth. Dymunwn y gorau i bob un o’r dysgwyr ar gyfer eu dyfodol, boed hynny yn astudio gradd mewn Prifysgol, yn dilyn cwrs prentisiaeth neu’n ymuno â’r byd gwaith.”