Gŵyl Grefft Cymru yn llwyddiant ysgubol wrth i 3,500 o bobl fynychu’r digwyddiad yng Nghastell Aberteifi
Cynhaliwyd Gŵyl Grefft Cymru am y tro cyntaf rhwng dydd Gwener y 6ed o Fedi a dydd Sul yr 8fed o Fedi ac roedd wedi “mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau” medd y trefnwyr wrth i dros 3,500 o bobl o bob oed fynychu’r digwyddiad.
Gwnaeth Gŵyl Grefft Cymru arddangos 80 o grefftwyr dethol o bob cwr o’r DU, ond â nifer o ganolbarth a gorllewin Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys gwneuthurwyr gemwaith a chelfi a gwydr, crochenyddion, artistiaid tecstilau, a llawer mwy, sy’n gwerthu eu cynnyrch cain unigryw yn uniongyrchol i’r cyhoedd.
Menter nid-er-elw yw’r ŵyl a arweinir gan Sarah James MBE, a anwyd a magwyd yn Aberteifi, a Nina Fox. Mae Sarah a Nina hefyd yn trefnu’r Craft Festival yn Bovey Tracey a Craft Festival Cheltenham.
Cafodd Gŵyl Grefft Cymru ei hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a weinyddir gan dîm Cynnal y Cardi ar ran Cyngor Sir Ceredigion, gyda chyllid ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a QEST (Ymddiriedolaeth Ysgoloriaeth y Frenhines Elizabeth). Estynnir diolch yn arbennig i'r Cynghorydd Clive Davies, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio, am ei gefnogaeth frwd.
Dywedodd y Cynghorydd Davies: “Rydym wrth ein boddau gyda llwyddiant yr Ŵyl Grefft Cymru gyntaf. Mae’r digwyddiad wir wedi rhagori ar ein disgwyliadau gan ddenu miloedd o ymwelwyr ac arddangos talent anhygoel y crefftwyr proffesiynol o bob rhan o'r DU, yn enwedig o ganolbarth a gorllewin Cymru. Mae'r ŵyl hon nid yn unig yn tynnu sylw at dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ein rhanbarth ond hefyd yn cefnogi ein heconomi leol a'r gymuned. Rydym yn hynod ddiolchgar i'r partneriaid a’r arianwyr i gyd, a'r tîm ymroddedig a roddodd y digwyddiad hwn ar waith. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y blynyddoedd i ddod.”
Roedd y crochenydd, yr awdur a'r bersonoliaeth deledu Keith Brymer Jones wedi agor y digwyddiad yn swyddogol, ar y cyd â Sarah James, ar y diwrnod cyntaf. Cymerodd Keith ran hefyd mewn dau ddigwyddiad holi ac ateb - dan eu sang - yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw gyda'i bartner Marj yn Nhŷ’r Castell.
Ymunodd dros 400 o blant â gweithgareddau crefft am ddim dros y penwythnos a hynny mewn sesiynau a gynhaliwyd gan Amgueddfa Cymru, Llantarnam Grange, Theatr Byd Bychan, Jim Parkyn, Ysgol Gelf Caerfyrddin yng Ngholeg Sir Gâr, a Choleg Ceredigion. Hefyd cafwyd perfformiadau theatraidd a cherddorol dros y penwythnos gan sefydliadau ac artistiaid Cymreig gan gynnwys Hijinx, Kitsch ‘n’ Sync, Mari Mathias, Lowri Evans, Disclaimers a Band Arian Aberystwyth.
Roedd y digwyddiad yn cynnig rhaglen o weithdai crefft, arddangosiadau a dosbarthiadau meistr gan rai o wneuthurwyr gorau’r DU, gan gynnwys yr artist serameg sydd wedi arddangos yn rhyngwladol, Ashraf Hanna; Peter Bodenham o Grochendy Llandudoch; y gwneuthurwr ysgubau a brwshys o Sir Gaerfyrddin, Rosa Harradine; y gwehydd cyfoes â llaw, Llio James; y turniwr pren a'r gwneuthurwr basgedi onnen Michelle Mateo; Tim Lake y seramegydd o Frechfa; a’r dylunydd gemwaith o fri rhyngwladol, Ann Catrin Evans.
Dywedodd Sarah James: “Rwyf wrth fy modd fod cymaint o bobl wedi dod i Ŵyl Grefft Cymru. Roeddem yn gobeithio y byddai nifer dda yn dod ond mae nifer yr ymwelwyr wedi rhagori ar ein disgwyliadau i gyd. Roedd hwn yn ddigwyddiad arbennig gydag ymdeimlad gwych o gymuned ac o ddathlu ymhlith yr arddangoswyr a’r ymwelwyr drwy gydol y penwythnos.
“Rwy'n ddiolchgar iawn i'n harianwyr, partneriaid y prosiect, tîm yr Ŵyl Grefftau, gwirfoddolwyr, yr arddangoswyr, a phobl hyfryd Ceredigion am ein helpu ni i ddod â'r digwyddiad hwn i'm tref enedigol”.
Mae dau ddigwyddiad am ddim a oedd yn rhan o Ŵyl Grefft Cymru yn parhau i redeg. Arddangosfa serameg o Gymru yw Ffurfiau Arwyddocaol/ Significant Forms a guradwyd gan Peter Bodenham ac sy’n cael ei chyflwyno yn Canfas, oriel celf gyfoes Aberteifi. Mae'r arddangosfa'n cynnwys cymysgedd cyffrous o wneuthurwyr sy'n arddangos yn rhyngwladol yn rheolaidd. Mae am ddim i gael mynediad i'r arddangosfa hon ac mae'n rhedeg tan 8 Hydref.
Yn ogystal, mae’r Llwybr Crefftau, mewn partneriaeth ag Oriel Myrddin, yn cyflwyno gwaith comisiwn gan chwech o wneuthurwyr ar eu prifiant. Mae'r gwaith newydd hwn yn cael ei ysbrydoli gan y casgliadau yn Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru, menter newydd o bwys a noddir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cael ei datblygu a'i rheoli ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Lleoliadau’r llwybr yw Mwldan, Yr Albion sy’n perthyn i Fforest, Crwst, Brownies Bae Ceredigion, Awen Teifi, a Make it in Wales / Stiwdio 3. Mae'r Llwybr Crefftau yn rhedeg tan 20 Medi.
Hefyd gallwch weld y Llwybr Cerfluniau gan Ysgol Gelf Caerfyrddin a'r bwa helyg godidog gan yr artist o Aberteifi, Michelle Cain, yng Nghastell Aberteifi tan 6 Hydref.
Cafodd Gŵyl Grefft Cymru ei chynnal ar y cyd â Chyngor Sir Ceredigion, Cyngor Celfyddydau Cymru a QEST.
Y partneriaid oedd Castell Aberteifi, Cered - Menter Iaith Ceredigion, Coleg Sir Gâr, Llantarnam Grange, Make it in Wales, Mwldan, Amgueddfa Wlân Cymru, Oriel Myrddin, QEST, a Sea & Slate.
Y cefnogwyr oedd Awen Teifi, Canfas, Cyngor Tref Aberteifi, Darganfod Ceredigion, Brownies Bae Ceredigion, Coleg Ceredigion, Crwst, Fforest a Theatr Byd Bach.
I gael rhagor o wybodaeth am Ŵyl Grefft Cymru, ewch i: www.craftfestival.co.uk