Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwaith adeiladu yn dechrau i adfywio Promenâd Aberystwyth

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o roi diweddariad am gynnydd y gwaith adfywio ar Bromenâd Aberystwyth sy'n ceisio trawsnewid Promenâd Aberystwyth i fod yn lle mwy hygyrch, deniadol a chynaliadwy ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr.

Mae’r newidiadau hyn, ar y cyd ag ailddatblygu'r Hen Goleg, yn derbyn £10.8m gan Lywodraeth y DU, ac yn ailfywiogi ardal sy’n gyfoethog o ran ei threftadaeth ddiwylliannol. Bydd prosiect y Promenâd yn sbarduno buddsoddiad newydd, yn creu cyfleoedd ac yn rhoi hwb i hyder y dref gan adeiladu ar le teilwng Aberystwyth fel lle i ymweld ag ef.

Mae'r prosiect yn cynnwys gwella mannau cyhoeddus yn sylweddol megis uwchraddio’r goleuadau stryd - sydd ar waith eisoes - yn ogystal â gwella llwybrau troed a gosod celfi stryd newydd i adnewyddu a moderneiddio'r promenâd. Bydd y gwelliannau hyn yn creu amgylchedd croesawgar a diogel gan wneud y promenâd yn lle deniadol i'w fwynhau drwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae hon yn rhaglen waith drawsnewidiol ar gyfer Aberystwyth. Gyda’i gilydd, dyma fuddsoddiad o dros £60m i'r dref. Bydd y promenâd newydd yn gwella’n fawr y cyswllt ag atyniadau eraill megis Gerddi'r Castell, a’r Hen Goleg ar ei newydd wedd. Bydd yn cynnig mwy o le ar gyfer teithio llesol a ffyrdd iachach o fyw yn ogystal ag ychwanegu at ogoniant glan y môr. Bydd y nifer gynyddol o ymwelwyr yn arwain yn naturiol at dwf busnesau. Mae’n braf gweld rhai o'r gwelliannau ar waith yn barod, megis y goleuadau newydd o amgylch cofeb y rhyfel ar Drwyn y Castell.”

Ychwanegodd Maldwyn Pryse, Maer Aberystwyth: “Er ein bod wedi pryderu am y diffyg ymgynghori go iawn ynghylch y datblygiad, rydym yn derbyn bod y gwaith yn dechrau o'r diwedd. Daw gwelliannau i'r dref yn sgil y buddsoddiad hwn yn enwedig gan y ddwy bont yn y castell a ddylai fod yn eu lle erbyn y Nadolig eleni os daw’r caniatâd perthnasol mewn pryd oddi wrth CADW. Wrth i bethau fynd rhagddynt byddaf yn gwthio'n galed am bartneriaeth gref gyda'r Cyngor Sir i sicrhau ein bod yn ymwneud â’n gilydd ar y cyfleoedd a ddaw o hyn i wella’r dref yn rhagor.”

Bydd y prosiect yn cael ei gynnal fesul cam, dechreuodd cam cyntaf y gwaith ar y promenâd ym mis Hydref gyda’r disgwyl y bydd yn gorffen erbyn dechrau 2025. Disgwylir i'r prosiect cyfan ddod i ben erbyn haf 2025. 

Derbynwyd trigolion, sy'n cael eu heffeithio gan y gwaith, gwybodaeth yn uniongyrchol i sicrhau bod cyn lleied o amharu â phosib.Mae hyn yn cynnwys manylion cyswllt y prif gontractwyr rhag ofn y bydd anawsterau.

Mae’r gwaith wedi ei gynllunio ar gyfer y gaeaf i leihau’r amharu. Bydd rhagor o wybodaeth ar y prosiect i’w chael ar dudalen newydd. Ewch i https://www.ceredigion.gov.uk/promaber