Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gofyn barn ar gynllun amddiffyn yr arfordir ar gyfer Aberystwyth

Gofynnir am farn y cyhoedd ar gynllun amddiffyn yr arfordir ar gyfer Aberystwyth.

Promenâd AberystwythMae AtkinsRealis wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Ceredigion i ddatblygu strwythurau amddiffyn yr arfordir a fydd yn lleddfu problemau llifogydd arfordirol ar hyd Glan Môr Aberystwyth.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ffocysu ar lifogydd arfordirol a achosir gan y tonnau sy’n dod i mewn, a thonnau’n gorlifo dros y promenâd, sy’n arwain at yr angen i glirio cerrig mân yn rheolaidd oddi ar y promenâd a difrod i'r morglawdd a'r eiddo sydd ar ochr arall y promenâd.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet Ceredigion gyda chyfrifoldeb am Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol: “Yn ôl data, rhagwelir y bydd 460 eiddo mewn perygl o lifogydd mewn 100 o flynyddoedd os na wneir unrhyw beth. Ar ôl ymchwilio i ba mor effeithiol yw gwahanol opsiynau amddiffyn yr arfordir, mae’r cwmni AtkinsRealis yn ceisio barn y cyhoedd ar y cynllun sy’n cael ei gynnig wrth i’r gwaith modelu gadarnhau ei fod yn bodloni’r gofynion o ran amddiffyn rhag llifogydd yn awr ac yn y dyfodol. Ein nod yw darparu cynllun cynaliadwy i ddiwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael dweud eich dweud yn y cyfnod ymgynghori hwn".

Gall breswylwyr rannu eu barn i’r ymgynghoriad drwy wylio’r fideo ac ymateb drwy ffurflen ar-lein yma neu fynychu’r digwyddiad ymgysylltu ar 02 a 03 Medi 2024 yn Bandstand Aberystwyth ble bydd copïau papur i chi ymateb yn ysgrifenedig ynghyd â fideo ar sgrin fawr. Bydd yr ymgynghoriad ar agor am ymatebion hyd at 08 Hydref 2024.

Os oes angen copi papur o’r ymgynghoriad arnoch neu os oes ei angen arnoch mewn fformat arall, e-bostiwch neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar clic@ceredigion.gov.uk neu 01545 570881.