Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ffenest gyllido ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ yn agor

Mae Partneriaeth Natur Ceredigion wedi lansio ei chynllun grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Yng nghyfarfod chwarterol Partneriaeth Natur Ceredigion ddydd Gwener 19 Gorffennaf yn eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Llanerchaeron, cyhoeddodd y Bartneriaeth Natur Leol fod ganddynt £350,000 i’w ddosbarthu. Mae’r cynllun nawr yn gwahodd ceisiadau ar gyfer prosiectau gwerth hyd at £50,000 i wneud cais am gyllid cyfalaf.

Gwahoddir ceisiadau gan Grwpiau a Gyfansoddwyd, Elusennau Cofrestredig, Cwmnïau, Busnesau Preifat a sefydliadau’r Sector Cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau er budd natur a chymunedau Ceredigion.

Dywedodd Rachel Auckland, Cydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol: “Mae’r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn croesawu ceisiadau ar gyfer prosiectau sy’n creu, adfer neu’n gwella natur er budd bywyd gwyllt a chymunedau o amddifadedd. Rydym eisiau cefnogi prosiectau a fydd yn dod â natur yn ôl wrth garreg y drws lle mae pobol yn byw, yn gweithio ac yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r pwyslais ar gefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a chymunedau difreintiedig yn enwedig mewn ardaloedd sydd ag ychydig iawn o fynediad at natur.  Y grant uchaf sydd ar gael yw £50,000 ond nid oes isafswm ac rydym yn annog grwpiau a phrosiectau llai o faint i wneud cais. Bydd y cyllid hwn yn cynnig modd i sefydliadau bywyd gwyllt a grwpiau cymunedol wella lleoedd ar gyfer natur a phobl. Rydym yn gobeithio y bydd yn annog pobl i gymryd rhan, i brofi a gwerthfawrogi natur heb wneud niwed i’r bywyd gwyllt sydd yno eisoes.”

Ymhlith y syniadau ar gyfer prosiectau posib y mae:
•    creu mannau gwyrdd ar strwythurau ac arwynebau artiffisial mewn ardaloedd trefol;
•    plannu coed stryd, perthi, perllannau neu goetiroedd;
•    newid arferion torri porfa er budd bioamrywiaeth neu greu dolydd blodau gwyllt;
•    creu mannau tyfu bwyd neu randiroedd sy’n hybu byd natur;
•    prynu pecynnau codi sbwriel neu offer i wneud arolwg o fywyd gwyllt.

Rhaid i ymgeiswyr ddangos sut y byddant yn cynnal y prosiect am o leiaf pum mlynedd ar ôl diwedd y cyllid hwn. Gall y prosiectau gynnwys gwella mynediad i safleoedd sy’n bodoli eisoes neu safleoedd newydd fel y gall pawb wneud y mwyaf ohonynt, a rhaid iddynt hefyd gynnwys gwelliannau o ran bioamrywiaeth drwy, er enghraifft, gosod blychau nythu ar gyfer adar neu ystlumod.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Hyrwyddwr Bioamrywiaeth ac aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am Briffyrdd, Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon ar Gyngor Sir Ceredigion: “Mae'n wych gweld bod cyllid o'r natur hon ar gael i wneud yn siŵr ein bod yn gallu gweld yr egin syniad yn tyfu'n rhywbeth mawr. Gall y math hwn o gyllid helpu mannau lleol i ddod yn ganolbwynt i natur a gwella bioamrywiaeth ynghyd â gwella iechyd meddwl a llesiant meddyliol y trigolion hynny sy'n byw yno ac yn ymweld. Dyma ffynhonnell ariannu ddelfrydol i grwpiau lleol roi cychwyn ar y syniadau hynny.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 02 Medi. Ariennir y cynllun gan gronfa Llywodraeth Cymru, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. 

I gael ffurflen gais neu ragor o fanylion, e-bostiwch amlinelliad o’ch prosiect neu unrhyw ymholiad i bioamrywiaeth@ceredigion.gov.uk