Skip to main content

Ceredigion County Council website

Dirwyo ffarmwr am beidio â glynu at reoliadau cadw gwartheg

Ar ddydd Mercher 17 Gorffennaf 2024, yng Nghanolfan Gyfiawnder Aberystwyth, pasiodd yr Ynadon ddedfryd ar Mr. Gary Davies, o Bercoed Uchaf, Bangor Teifi, Llandysul.

Plediodd Mr. Davies yn euog i dair trosedd o dan Reoliadau Adnabod Gwartheg 2007, dwy drosedd o dan Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 a thair trosedd o dan Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010.

Clywodd yr Ynadon nad oedd gan Mr Davies fawr o sylw i'r mesurau rheoli clefydau oedd ar waith i ddiogelu'r diwydiant ffermio. Methodd yn gyson â rhoi gwybod am farwolaethau ac symudiadau gwartheg ers 2021 yn groes i Reoliadau Adnabod Gwartheg 2007. Mae cynnal a chadw symudiadau anifeiliaid yn gywir yn hanfodol i reoli clefydau anifeiliaid, ac uniondeb y gadwyn fwyd. Roedd y ffarmwr hefyd wedi symud y gwartheg ar ac oddi ar y daliad o fewn y cyfnod segur chwe diwrnod sy'n groes i'r Gorchymyn Rheoli Clefydau. Mae hon yn reolaeth bwysig arall wrth atal lledaeniad clefydau anifeiliaid.

Pleidiodd Mr. Davies hefyd yn euog at symud 99 o wartheg ar ac oddi ar y daliad tra dan gyfyngiadau twbercwlosis (TB). Mae'r rheolaethau hyn yn hanfodol i reoli TB mewn gwartheg, ac atal lledaeniad o fewn y buchesi a'r buchesi cyfagos.

Clywodd yr Ynadon sut roedd swyddogion Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion wedi ymweld ac ysgrifennu at Mr. Davies sawl gwaith ers 2020 yn nodi achosion o dorri deddfwriaeth a rhoi cyngor ar y gofynion cyfreithiol.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am Ddiogelu’r Cyhoedd: “Mae ein tîm Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor yn cefnogi’r diwydiant ffermio yng Ngheredigion trwy ddarparu cyngor ac arweiniad i ffermwyr fodloni'r safonau cyfreithiol. Mae'r mwyafrif helaeth o ffermydd yng Ngheredigion yn cydymffurfio'n llawn â'u rhwymedigaethau ac yn glod i'r diwydiant. Fodd bynnag, roedd yn siomedig na chafodd y cyngor a roddwyd iddynt sylw sy’n golygu nad oedd gan yr Awdurdod lawer o ddewis ond dod â'r achos hwn i'r llys."  

Cyhoeddodd y llys Ynadon ddirwy o £200 am bob un o'r achosion o dorri'r Rheoliadau Adnabod Gwartheg, £300 am y dwy achos o dorri'r Gorchymyn Rheoli Clefydau, a £500 am bob trosedd o dan Orchymyn TB. Cyfanswm y ddirwy oedd £2200 a oedd yn cynnwys tâl ychwanegol o £880. Dyfarnwyd £3011.59 i'r Cyngor am y costau drwy ddod â'r mater i'r llys gan ddod a cyfanswm y dirwy i £6091.59.