Skip to main content

Ceredigion County Council website

Dewch i ymweld â ni yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru

Mae croeso cynnes i bawb yn ein stondin ar faes y Sioe Frenhinol wythnos nesaf (stondin 477-E ar y map).

Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal trwy gydol yr wythnos, gan gynnwys digwyddiad a chyflwyniad am botensial hydrogen yn y byd amaeth ac economi Ceredigion a Chanolbarth Cymru,  sesiwn galw heibio i drafod cyfleoedd tai yng Ngheredigion a sesiwn galw heibio am gyfleoedd ynni lleol.

Ar brynhawn ddydd Mercher 24 Gorffennaf, cynhelir sesiwn holi ac ateb, ‘Hybu Economi Ceredigion - Tanio’r Dychymyg’, gyda phanel o entrepreneuriaid ifanc o Geredigion yn trafod eu huchelgeisiau a’i heriau maent yn wynebu, wrth siarad am y gefnogaeth y maent wedi'i derbyn trwy grantiau amrywiol.

Bydd cyfle i weld Ceredigion drwy glustffonau realiti rhithiwr (VR), cwblhau jig-so enfawr o Geredigion, ymweld ag arddangosfa Rali Ceredigion a chyfle i weld amrywiaeth o gynnyrch lleol o’r Sir. I flasu'r cynnyrch bwyd ardderchog sydd gennym yng Ngheredigion, ewch i'r Brif Neuadd Fwyd yn ystod yr wythnos.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies: “Mae Ceredigion yn falch iawn o fod y Sir Nawdd ar gyfer y Sioe Frenhinol eleni. Galwch heibio ein stondin ar faes y Sioe i glywed mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi yng Ngheredigion, o’n Cynllun Tai Cymunedol i grantiau i fusnesau ac unigolion a hefyd i glywed a thrafod dyfodol ynni ym myd amaeth. Welwn ni chi yna!”

I weld yr amserlen lawn, ewch i’n dudalennau cyfryngau cymdeithasol; @CyngorSirCeredigion ar Facebook, @CSCeredigion ar X a @CaruCeredigion ar Instagram. 

Map o Faes y Sioe Frenhinol.