Skip to main content

Ceredigion County Council website

Dathlwch ryfeddodau bywyd gwyllt Waunfawr: digwyddiad rhad ac am ddim i anrhydeddu Biosffer Dyfi UNESCO

Mae croeso cynnes i bawb i ddigwyddiad rhad ac am ddim Rhyfeddodau Bywyd Gwyllt Waunfawr, yn Neuadd Gymunedol Waunfawr ar ddydd Gwener 12 Gorffennaf rhwng 17:00 a 19:00.

Byddwn yn archwilio, adnabod a chofnodi’r bywyd gwyllt o’n cwmpas gyda Milly Jackdaw yn adrodd storïau, gweithgareddau i blant a saffari bywyd gwyllt.

Mae Waunfawr yn dathlu ei statws newydd fel rhan o Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) Biosffer Dyfi sydd wedi’i ymestyn gan groesawi ardaloedd pum Cyngor Cymuned i’w hardal ehangach a fydd yn cael mantais o’r statws rhyngwladol hwn.  Dewch a’ch ffrindiau a theuluoedd i ymuno yn yr hwyl ac i ddarganfod mwy.

Bydd cynrychiolwyr Partneriaeth Natur Leol Ceredigion, Biosffer Dyfi a Chanolfan Cofnodi Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru yn mynychu'r digwyddiad i ddathlu.

Dewch â'ch hadau, eginblanhigion, a phlanhigion sbâr i'r Stondin Cyfnewid Planhigion sy'n ddeiniadol i beillwyr er mwyn rhoi hwb i fywyd gwyllt yn eich gardd eich hun. Bydd cyfle hefyd i ennill coeden afal.

Dywedodd Rachel Auckland, Cydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion: “Rydym yn falch fod Biosffer Dyfi yn ymestyn, ac mae Waunfawr yn dathlu hyn mewn dull sydd o fudd i fyd natur. Mae’n dangos sut gall cymuned yng Ngheredigion helpu i roi Cymru a’n bywyd gwyllt rhyfeddol ar y map. Mae’n gyffrous iawn!”

I gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion, ewch i: www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/arolwg-partneriaeth-natur-leol-ceredigion/