Dathlu Llwyddiannau Chwaraeon Ceredigion yng Ngwobrau Chwaraeon 2024
Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon Ceredigion 2024 ddydd Gwener, 05 Gorffennaf 2024 yn Swyddfeydd y Cyngor ym Mhenmorfa, Aberaeron. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan Gyngor Chwaraeon Ceredigion mewn partneriaeth â Ceredigion Actif, yn dathlu llwyddiannau chwaraeon eithriadol pobl y Sir a’r rhai sy’n eu cefnogi.
Yn ystod y seremoni cafwyd cydnabyddiaeth ar gyfer wyth categori gwobrau i dynnu sylw at ymroddiad a thalent pobl Ceredigion. Ymysg y rhai a gafodd eu hanrhydeddu roedd 42 o athletwyr iau talentog a 22 o athletwyr rhyngwladol, gan arddangos sgiliau chwaraeon trawiadol y rhanbarth.
Roedd y gwobrau hefyd yn dathlu cyfraniadau gwirfoddolwyr ifanc, arwyr di-glod, gwirfoddolwyr chwaraeon anabledd, a Hyfforddwr y Flwyddyn. Mae'r unigolion hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth ysbrydoli ac annog mwy o bobl yn y Sir i fod yn actif a gwneud defnydd o'r cyfleusterau rhagorol sydd ar gael.
Dywedodd Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid yng Ngheredigion: "Mae'n wych gweld cymaint o unigolion, mewn mwy na 15 math o chwaraeon, yn cael eu hanrhydeddu am eu gwaith caled a'u cyflawniadau. Y llynedd roedd y brodyr Tarling yn cael eu hanrhydeddu ac eleni mae Josh yn y tîm olympaidd ynghyd â dyn ifanc arall o Geredigion, Stevie Williams, sydd ar hyn o bryd yn cystadlu yn y Tour de France.
“Mae nhw’n lysgenhadon gwych dros Geredigion. Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw hi i gefnogi ein pobol ifanc a chydnabod maint eu hymdrech. Mae’r gwobrau’n ein hatgoffa o ymdrech bersonol pob un ond hefyd ymdrech ein cymuned i hyrwyddo chwaraeon a chefnogi gweithgarwch corfforol.”
Mae Cyngor Chwaraeon Ceredigion yn estyn eu diolch o galon i’r pum cwmni a noddodd y digwyddiad: Castell Howell, Alliance Leisure, ABER Instruments, Cawdor Cars, a Hafren Furnishers. Gwnaeth eu cefnogaeth y dathliad hwn yn bosibl.
Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr ar eu llwyddiannau rhyfeddol. Mae eich gwaith caled a'ch ymroddiad yn wirioneddol ysbrydoledig!