Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cyngor Ysgol Rhydypennau wedi lansio “diwrnod di-ynni” yn yr ysgol

I godi ymwybyddiaeth o effaith eu cymuned ar yr amgylchedd, gwnaeth Cynghorwyr Ysgol Rhydypennau, Bow Street, datblygu syniad gwreiddiol.

Aelodau o Gyngor Ysgol Rhydypennau gyda'r Pennaeth Peter Leggett.

Mewn llythyr a anfonwyd at rieni yn gynnar wythnos diwethaf, dywedodd Cynghorwyr Ysgol Rhydypennau:

“Fel Cyngor Ysgol, rydym wedi penderfynu trefnu ‘diwrnod di-ynni’ yn yr ysgol i godi ymwybyddiaeth o’n heffeithiau, fel bodau dynol, ar ein hamgylchedd. Bydd hyn yn digwydd ddydd Gwener, 12 Gorffennaf 2024. 

“Ar y diwrnod hwn, rydyn ni’n gofyn i’n hathrawon ddiffodd pob dyfais a golau electronig ac wedi gofyn i gegin yr ysgol ymuno drwy beidio â defnyddio eu poptai na’u peiriannau golchi llestri. Felly, bydd yn ginio oer ddydd Gwener.

“Rydym hefyd yn gofyn i chi fel teuluoedd i ymuno â’n hymgyrch drwy leihau eich ôl troed carbon ar y diwrnod hwn. Lle bo modd, byddai’n wych pe gallech adael y car gartref a cherdded, beicio neu sgwter i’r ysgol. Rydym yn deall nad yw hyn yn bosibl ac efallai nad yw’n ddiogel i bawb – ond os gallwch chi ymuno i’n helpu i hyrwyddo ein neges, byddai hynny’n wych!” 

Dywedodd y Pennaeth, Peter Leggett: “Rwyf wrth fy modd bod ein disgyblion wedi trefnu’r diwrnod hwn i dynnu sylw at fater pwysig sy’n berthnasol i bob un ohonom. Mae ein Cynghorwyr Ysgol wedi nodi problem wirioneddol, un yr ydym yn ei chymryd yn ganiataol i raddau helaeth. Rwy’n falch bod ein disgyblion wedi dod o hyd i ffordd i gyfleu eu pryder ac wedi meddwl am syniad gwych i hyrwyddo dyfodol mwy cynaliadwy.”

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae menter y Cynghorwyr Ysgol yn Ysgol Rhydypennau i’w ganmol; trwy drefnu ‘diwrnod di-ynni’, maent nid yn unig yn codi ymwybyddiaeth o’n heffaith ar yr amgylchedd ond hefyd yn annog camau ymarferol i leihau ein hôl troed carbon. Mae’n galonogol gweld meddyliau ifanc yn mynd ati i hyrwyddo cynaliadwyedd. Da iawn i’r disgyblion a’u hymrwymiad i ddyfodol mwy cynaliadwy!”