Cyngor Sir Ceredigion yn lansio sioeau teithiol yr haf gyda gweithgareddau am ddim i blant a theuluoedd
Yr ystod haf eleni, bydd tîmau amrywiol o Gyngor Sir Ceredigion yn darparu gweithgareddau haf rhad ac am ddim i blant, pobl ifanc, a’u teuluoedd mewn tri lleoliad o fewn Ceredigion gyda chymorth ariannol gan Cynnal Y Cardi.
Bydd y sioeau teithiol, a gynhelir yng nghanolfannau hamdden Plascrug ac Aberteifi yn ogystal â Chanolfan Llesiant Llanbedr Pont Steffan, yn defnyddio tîmau Porth Cymorth Cynnar, gan gynnwys y Gwasanaeth Ieuenctid, Ceredigion Actif a Chymorth i Deuluoedd a Rhianta, i gynnig gweithgareddau a gwybodaeth am ddim. Bydd sefydliadau allanol fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Heddlu Dyfed Powys hefyd wrth law i gynnig gwybodaeth am ofal iechyd.
Bydd hyn yn cynnig cyfleoedd hygyrch i blant, pobl ifanc, a'u teuluoedd, ac ymdeimlad o ymgysylltu â'r gymuned, yn ogystal â chyngor a gwybodaeth i bobl ifanc nad ydynt efallai mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae'r sioe deithiol hefyd yn ceisio hybu datblygiad diwylliant a sgiliau Cymreig.
Dywedodd Greg Jones, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Porth Cymorth Cynnar, “Mae hwn yn gyfle gwych i ddod i wybod am wasanaethau’r Cyngor sydd ar gael i deuluoedd a phobl ifanc, ac ar yr un pryd fwynhau gweithgareddau am ddim ledled y Sir yr haf hwn."
Gan ddefnyddio arbenigedd staff a'r adnoddau sydd ar gael, mae rhai o'r gweithgareddau'n cynnwys gemau offer pwmpiadwy, peintio wynebau a gemau consol.
Bydd y sioeau teithiol yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol rhwng 10.00 a 14.00:
Canolfan Hamdden Plascrug, Aberystwyth – Dydd Gwener 26 Gorffennaf;
Canolfan Hamdden Aberteifi – Dydd Mercher 14 Awst;
Hyb Llesiant Llambed – Dydd Iau 22 Awst.
I gael rhagor o wybodaeth am y sioeau teithiol, e-bostiwch porthcymorthcynnar@ceredigion.gov.uk