Cyngor Sir Ceredigion yn dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024
Cynhelir Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni rhwng 23 a 30 Mehefin 2024. Mae’n rhoi’r cyfle i ni ddathlu straeon cadarnhaol a’n llwyddiannau dros y 12 mis diwethaf, gan uwcholeuo’r arloesi, gwydnwch a dyfeisgarwch a welwyd gan y sector yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid, mae’r Sector Gwaith Ieuenctid yn tynnu sylw at eu straeon llwyddiant ar gyfryngau cymdeithasol ac yn cydnabod y cyfraniadau y mae pawb sy’n gweithio o fewn y Gwasanaethau Gwaith Ieuenctid wedi’u gwneud i bobl ifanc a chymunedau. Mae cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gweithdai a chystadlaethau i ddathlu’r wythnos.
Thema Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni yw “Pam Gwaith Ieuenctid?”, lle mae cyfle i dynnu sylw at gyflawniadau, dangos cydnabyddiaeth i’r rhai sy’n gweithio yn y sector trwy sefydliadau, awdurdodau lleol, ymarferwyr, clybiau ieuenctid, arweinwyr, ac wrth gwrs, pobl ifanc.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Wrth i ni ddechrau Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024, rydym yn ymfalchïo mewn dathlu llwyddiannau rhyfeddol y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r Sector Gwaith Ieuenctid, yn enwedig ein tîm ymroddedig o fewn y Cyngor, wedi dangos arloesedd, gwytnwch a dyfeisgarwch diwyro yn gyson. Hyd yn oed yng nghanol amgylchiadau heriol, maent wedi cefnogi pobl ifanc a chymunedau yn ddiflino. Trwy gyfryngau cymdeithasol, byddwn yn tynnu sylw at eu straeon llwyddiant ac yn cydnabod eu cyfraniadau amhrisiadwy. Gadewch i ni anrhydeddu ymrwymiad ein tîm Gwaith Ieuenctid, sy’n gweithio’n ddiflino i rymuso a chodi ein hieuenctid.”
Trwy gydol yr wythnos byddwn yn canolbwyntio ar ddangos cydnabyddiaeth i'r cyflawniadau hyn. Cadwch lygad ar dudalennau @IeuenctidCymru neu @YouthWorkinWales ar X (Trydar yn flaenorol) i ddarllen y straeon. Am fwy o wybodaeth am waith Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, ewch i ddilyn ‘Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion Youth Service’ ar Facebook ac @GICeredigionYS ar X neu Instagram. Gallwch hefyd ymweld â’r wefan yma: www.giceredigionys.co.uk