Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal trafodaeth arloesol ar rôl Hydrogen mewn amaethyddiaeth yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru
Ar ddydd Mawrth 23ain o Orffennaf, 2024 cyflwynodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion sef y Cynghorydd Bryan Davies, banel o arbenigwyr yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru i drafod y cyfleoedd a'r opsiynau presennol ynghylch y defnydd o hydrogen yn y dyfodol fel tanwydd mewn amaethyddiaeth a meysydd eraill.
Mae amaethyddiaeth, yn ogystal â sectorau eraill o'r economi yng Ngheredigion ar hyn o bryd yn mynd trwy broses drosglwyddo o ddefnyddio tanwyddau ffosil i bweru eu busnesau, ond mae nifer o heriau o hyd i fusnesau gwledig er mwyn gallu cwblhau'r siwrnai hon. Bydd hi’n ofynnol i fusnesau fferm ddisodli disel fel ffynhonnell tanwydd allweddol ar gyfer peiriannau fferm yn y dyfodol, mae gwneuthurwyr peiriannau eisoes yn datblygu peiriannau hylosgi mewnol y gellir eu pweru gan ddefnyddio tanwydd amgen, gan gynnwys bio-nwy a hefyd Hydrogen. Mewn oes lle mae amaethyddiaeth, yn ogystal â diwydiannau eraill, yn symud tuag at ddatgarboneiddio, roedd y digwyddiad yn gyfle i arddangos ffynonellau tanwydd amgen a allai sicrhau dyfodol gwyrddach i'r diwydiant.
Roedd y panel yn cynnwys Huw Davies, Datblygiadau Adnewyddadwy Cymru, Dr Joanna Oliver, Pennaeth Technoleg, Haush Energy a Richard Winterbourne, Prif Swyddog Gweithredol Haush Energy. Mae gan bob un ohonynt brofiad helaeth o weithio gydag ynni gwyrdd, gan gynnwys gwynt, pyrolysis, ac yn fwy diweddar, Hydrogen a'r rôl y gall Hydrogen Gwyrdd ei chwarae o ran pweru ein heconomi wledig.
Roedd cyfle i ofyn cwestiynau i'r arbenigwyr ar ddiwedd y digwyddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: Rydym yn awyddus i ddod i’r afael â thechnoleg hydrogen yng Ngheredigion, â all arwain at fanteision posibl i economi wledig Ceredigion ac i bweru ystod eang o offer amaethyddol, o gynaeafwyr i systemau dyfrhau, tai gwydr a'n fflyd fewnol o gerbydau yng Ngheredigion. Drwy wneud hyn, gallwn wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a diogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Enghraifft arall eto o ddull arloesol Ceredigion o yrru'r agenda sero carbon net."
I gael gwybod mwy, ewch i: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/tai/gwybodaeth-a-chymorth-ariannol/cynlluniau-effeithlonrwydd-ynni/