Cynefin yng Ngheredigion
Yn Amgueddfa Ceredigion ar 26 Hydref, bu teuluoedd yn mwynhau gweithgareddau i ddathlu holl ddiwylliannau a threftadaeth wahanol bobl sy'n byw yng Ngheredigion. Ariennir y digwyddiad gan Gronfa Cydlyniant Cymunedol De Orllewin a Chanolbarth Cymru.
Trefnwyd y diwrnod hwyl i'r teulu gan Gyngor Sir Ceredigion, Prifysgol Aberystwyth a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Y thema oedd 'Cynefin', y gair Cymraeg am 'y man lle'r ydym yn perthyn'.
Dechreuodd Y Cynghorydd Catrin MS Davies, Hyrwyddwr Cydraddoldeb Cyngor Sir Ceredigion y diwrnod drwy atgoffa pobl o'r ieithoedd niferus a siaredir gan bobl yng Ngheredigion, gan gynnwys Pwyleg, Rwmaneg, Arabeg, Tsieinëeg, Ffrangeg, Hwngareg, Nepaleg, Igbo a Pashto yn ogystal â Chymraeg a Saesneg. Dywedodd: "Rydyn ni eisiau i bawb yng Ngheredigion, gan gynnwys pobl lle mae eu treftadaeth a'u diwylliant yn deillio o rannau eraill o'r byd, deimlo mai Ceredigion yw eu cynefin.”
Anogwyd teuluoedd i flasu bwyd gwahanol, addurno cerrig, chwarae ‘Connect 4’ enfawr ac ymuno â gweithdy drymio rhyngweithiol iawn. Cawsant gyfle hefyd i siarad â'i gilydd, darganfod beth sydd ganddynt yn gyffredin a rhannu straeon.
Roedd arddangosfeydd a stondinau gwybodaeth gan fosg Llambed, Canolfan Fethodistaidd Sant Paul, Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru, tîm Allgymorth Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Papyrus, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, Ap Aberystwyth, Heddlu Dyfed Powys; timau Cydraddoldeb a Chynhwysiant Gofalwyr a Chymunedau Cyngor Ceredigion a thîm Cymorth Ieuenctid Ethnig.
Daeth y diwrnod i ben gyda pherfformiad barddoniaeth gan Suzanne Smart a sylwadau cloi gan yr Athro Uzo Iwobi CBE, Prif Weithredwr Race Council Cymru, Arweinydd Hanes Pobl Dduon Cymru a Chydlynydd ‘Black Lives Matter Wales Collective’.