Cymunedau Ceredigion yn cael eu hannog i "fabwysiadu" eu hafonydd lleol
Mae cymunedau ledled Ceredigion yn cael eu gwahodd i "mabwysiadu" nentydd i wella bioamrywiaeth a chysylltiad cymunedol â'u hafon leol, trwy brosiect dan arweiniad Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru (WWRT).
Mae Mabwysiadu Llednant Ceredigion yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU gyda chefnogaeth Ffyniant Bro a weinyddir gan Cynnal y Cardi, Cyngor Sir Ceredigion.
Mae'r prosiect yn ceisio gwella cyflwr afonydd Ceredigion, o ddalgylchoedd Afon Clarach ac Afon Rheidol yn y gogledd i Afon Teifi yn y de, trwy gefnogi a hyfforddi cymunedau i fod yn llygaid, clustiau a lleisiau ar gyfer afonydd lleol.
Mae llawer o lednentydd yn bwysig fel silfeydd a meithrinfeydd pysgod ac ar gyfer amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt eraill, gan gynnwys adar a dyfrgwn. Mae amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys asideiddio, llygredd, rhwystrau i fudo pysgod, sbwriel a dirywiad cynefinoedd yn golygu nad ydynt mor iach ag y gallent fod. Mae eu hadferiad yn hanfodol i wella bioamrywiaeth ac ansawdd dŵr. Mae afonydd hefyd yn bwysig i gymunedau dynol am amryw o resymau a bydd y prosiect hwn yn sicrhau y gall cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol fwynhau afonydd yn ddiogel.
Mae Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio, yn cefnogi'r prosiect. Dywedodd: "Mae grwpiau mabwysiadu yn gwneud popeth o roi gwybod i WWRT am faterion a chyfleoedd wrth gerdded ar hyd eu hafon, i gasglu sbwriel, arolygon bywyd gwyllt, monitro ansawdd dŵr a hyd yn oed gweithio gyda thirfeddianwyr i adfer cynefinoedd yn yr afon. Bydd WWRT yn darparu'r hyfforddiant, y gefnogaeth, yr offer a'r canllawiau Iechyd a Diogelwch i helpu cymunedau i gyflawni eu nodau.
"Mae'r prosiect yn gweithio gyda chymunedau lleol i fynd i'r afael â llawer o'r problemau sy'n effeithio ar y nentydd hyn, ac mae WWRT yn ceisio cynyddu nifer y grwpiau sy'n cymryd rhan i sicrhau bod cymaint o nentydd Ceredigion â phosibl yn cael gofal. "
Dywedodd Joe Wilkins, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Ceredigion ar gyfer Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru: "Mae'n anodd meddwl am Geredigion heb feddwl am y cannoedd o filltiroedd o afonydd a nentydd sy'n dod â chymaint o fywyd i'r sir. Mae ein hafonydd dan fygythiad ac mae'n hawdd teimlo'n ddi-rym. Mae prosiect Mabwysiadu Llednant yn ceisio dod â chymunedau at ei gilydd i wella iechyd afonydd Gorllewin Cymru.
Rydym yn edrych i weithio gydag unrhyw ysgolion, busnesau lleol, undebau, grwpiau ffermio, grwpiau cymunedol, cynghorau ac unigolion sydd am chwarae rhan i amddiffyn ac adfer afonydd gwych Ceredigion."
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn mabwysiadu llednant yng Ngheredigion anfon e-bost at Joe ar joe@westwalesriverstrust.org. Mae croeso i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg.