Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cylch Chwarae Ceredigion yn ennill gwobr yng Ngwobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru

Mae Cylch Chwarae Ceredigion wedi ennill gwobr yng Ngwobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru a gynhaliwyd yn Aberporth ddydd Mercher, 11 Medi 2024.

Mae Cylch Chwarae Dwyieithog Aberporth sy'n darparu addysg yn sector nas cynhelir i Gyngor Sir Ceredigion wedi ennill Gwobr 'Y Byd y tu allan' yn dilyn eu hymrwymiad i ddefnyddio'r amgylcheddau naturiol yn yr awyr agored i ddatblygu dysgu plant a manteisio ar hyfforddiant ysgol goedwig drwy’r Cyngor.

Er nad oes ganddynt ardal awyr agored ynghlwm wrth y lleoliad, maent yn manteisio ar amgylcheddau naturiol a lleoedd amrywiol ar gyfer gweithgareddau awyr agored o fewn pellter cerdded hawdd o’r Cylch Chwarae. Maent yn archwilio coedwigoedd lleol, ac yn darparu offer a chyfarpar digonol, heriol, a diddorol sy’n cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd i ddatblygu dysgu’r plant.

Dywedodd Rhiannon a Katie, Arweinwyr Cylch Chwarae Aberporth: “Mae’r staff yn ddiolchgar iawn am y gydnabyddiaeth hon! Mae’r staff wedi gweithio’n ddiflino i greu amgylchedd meithringar i’n dysgwyr ifanc, ac mae’r cyflawniad hwn yn dyst i’w hymroddiad. Diolch o galon i’n pwyllgor rheoli sydd wedi bod yn gefnogol iawn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r lleoliad yn ddiolchgar i’r plant, rhieni, staff a chefnogaeth Cyngor Sir Ceredigion.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn tynnu sylw eu cyflawniad rhagorol yn y byd y tu allan. Mae’r staff wedi gweithio’n ddiflino i greu amgylchedd meithrin i’n dysgwyr ifanc ac mae’r cyflawniad hwn yn dyst i’w hymroddiad. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran!”

I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru, ewch i: www.earlyyears.wales/cy/gwobrau-blynyddoedd-cynnar-cymru