Cyhoeddi Strategaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion ar gyfer 2024-2027
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion wedi cyhoeddi ei Strategaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer 2024-2027.
Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolwyr statudol o’r Heddlu, yr Awdurdod Lleol, yr Awdurdod Tân ac Achub, y gwasanaeth Iechyd, y gwasanaeth Prawf, yn ogystal â sefydliadau eraill. Rôl y Bartneriaeth yw gweithio gyda'i gilydd i amddiffyn cymunedau lleol rhag troseddau ac i helpu pobl i deimlo'n fwy diogel.
Mae dyletswydd statudol ar y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i gynnal adolygiad rheolaidd o drosedd ac anhrefn yn y Sir, a nodi dulliau o ddatblygu a gweithredu camau effeithiol i leihau'r problemau hyn. Defnyddir yr adolygiadau hyn i ddarparu sylfaen gref sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'r Bartneriaeth fedru llywio Strategaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer Ceredigion.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu, a Diogelu’r Cyhoedd: “Yn 2023, cynhaliodd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion Asesiad Strategol gyda'r nod o nodi'r prif faterion sy'n effeithio ar y Sir o ran trosedd ac anhrefn. Yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd o'r Asesiad, cytunodd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion ar nifer o flaenoriaethau ar gyfer eu Strategaeth Diogelwch Cymunedol."
Nod y Strategaeth yw lleihau gweithgarwch troseddol, gwella hyder y cyhoedd a'r teimlad o ddiogelwch o fewn cymunedau. Bydd y Strategaeth hefyd yn ceisio sicrhau dyraniad effeithiol o adnoddau a bod gweithgarwch yn cael ei flaenoriaethu’n effeithiol. Y blaenoriaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer 2024-2027 yw:
Categori 1: Troseddau |
Categori 2: Teimlo’n Ddiogel |
1. Troseddau Rhyw 2. Trais yn Erbyn Menywod a Merched 3. Cyflenwi Cyffuriau yn Anghyfreithlon a Chamddefnyddio Sylweddau 4. Trais Domestig |
1. Bwrgleriaeth 2. Troseddau Seibr, Twyll a Galw Diwahoddiad 3. Difrod Troseddol 4. Camddefnyddio Cyffuriau ag Alcohol 5. Presenoldeb Heddlu Gweladwy |
Dywedodd Barry Rees, Cadeirydd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion a Chyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn falch o'r berthynas rydym wedi'i hadeiladu, a'r gwaith sydd wedi'i gyflawni hyd yma ers sefydlu Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion yn 1999. Wrth i ni gyflwyno ein Strategaeth Diogelwch Cymunedol newydd, edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda chymunedau Ceredigion i sicrhau bod ein Sir yn parhau i fod yn lle ffyniannus a diogel i bobl fyw, gweithio ac ymweld ag ef.”
Gellir gweld Strategaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion ar gyfer 2024-2027, yn ogystal â’r Cynllun yn Gryno ar-lein: www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/partneriaethau/diogelwch-cymunedol/strategaeth-diogelwch-cymunedol-ceredigion-2024-2027/.
Mae copïau papur ar gael yn llyfrgelloedd sy’n eiddo i’r Cyngor, gan gynnwys faniau’r llyfrgell symudol. Bydd copïau papur hefyd ar gael yng Nghanolfan Lles Llambed a Swyddfeydd y Cyngor ym Mhenmorfa, Aberaeron a Chanolfan Rheidol, Aberystwyth.
Cysylltwch os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu fersiynau mewn fformatau eraill gan gynnwys fersiwn Hawdd ei Ddarllen, a hynny drwy ffonio 01545 570881 neu e-bostio clic@ceredigion.gov.uk.