Cyflwyno Tystysgrif Siarter Troseddau Casineb i Geredigion
Mewn cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd ddydd Iau 19 Medi 2024, cyflwynwyd tystysgrif Nod Ymddiriedaeth i Gyngor Sir Ceredigion gan Elusen Cymorth i Ddioddefwyr am ein hymrwymiad i’r Siarter Troseddau Casineb.
Cytunodd Cabinet y Cyngor i ymrwymo i Siarter Troseddau Casineb ym mis Tachwedd 2022. Mae’r Cyngor bellach yn rhan o rwydwaith o gynghreiriaid sy'n cefnogi ein gwaith gyda dioddefwyr ac yn codi ymwybyddiaeth am droseddau casineb a ffyrdd o’u riportio ledled Cymru. Mae’r Nod Ymddiriedaeth yn arwydd o'n hymrwymiad i fynd i’r afael â throseddau casineb a chynyddu ymwybyddiaeth a chefnogaeth i ddioddefwyr, tystion a chymunedau yr effeithir arnynt.
Y Cynghorydd Catrin M S Davies yw'r Aelod Cabinet sy’n cadeirio Gweithgor Cydraddoldeb y Cyngor. Dywedodd: “Mae Troseddau Casineb wedi cynyddu dros y blynyddoedd. Yr amcan yw bod neb yng Ngheredigion yn dioddef trosedd casineb a bod pawb yn gallu byw bywydau heb ofn a heb eu haflonyddu beth bynnag yw eich hil, cefndir neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae ein gwasanaethau ar draws y Cyngor yn parhau i godi ymwybyddiaeth i sicrhau ein bod yn gallu cefnogi dioddefwyr pan bod angen. Byddwn yn parhau â'r gwaith fel rhan o’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2024-28.”
Mae’r Cyngor yn cefnogi ac yn codi ymwybyddiaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd ac ar lefelau gwahanol:
- Cefnogi Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor i gyflwyno negeseuon i ysgolion
- Cynnal ystod o hyfforddiant i’n gweithwyr, sefydliadau eraill a’r cyhoedd
- Sicrhau bod polisïau ein darparwyr tai cymdeithasol yn cynnwys adran benodol am droseddau casineb fel rhan o’u polisi ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Gosod posteri a thaflenni am droseddau casineb, mewn gwahanol ieithoedd, yn ein llyfrgelloedd, Amgueddfa Ceredigion a'n canolfannau hamdden
- Codi ymwybyddiaeth yn ystod Wythnos codi ymwybyddiaeth Troseddau Casineb pob mis Hydref
Yn ystod y cyflwyniad, dywedodd Tammy Foley o Elusen Cymorth i Ddioddefwyr: “Llongyfarchiadau am gyrraedd statws Nod Ymddiriedaeth. Mae'r Nod Ymddiriedaeth yn arwydd o ymrwymiad Cyngor Sir Ceredigion i'r Siarter Troseddau Casineb a dioddefwyr Troseddau Casineb, ac mae'n dangos eu bod wedi cyflawni, ac yn parhau i gyflawni ar eu gweithredoedd pwrpasol i ddeddfu'r Siarter. Rydym yn falch iawn o'ch gweld yn cyrraedd statws Nod Ymddiriedaeth ac yn edrych ymlaen i weithio gyda chi ymhellach dros y 12 mis nesaf.”
Gallwch ddarllen fwy am y siarter yma: Siarter Troseddau Casineb - Troseddau Casineb Cymru (victimsupport.org.uk)
Os ydych chi neu rywun chi’n adnabod wedi profi trosedd casineb, ffoniwch 03003 031982 (24/7 am ddim) i gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr yn uniongyrchol. Mae galwadau'n cael eu trin yn gyfrinachol ac mae gennych yr opsiwn i aros yn ddienw.