Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cydnabyddiaeth i warchodwyr plant Ceredigion yn Nigwyddiad Dathlu Pacey Cymru

Ddydd Sadwrn, 5 Hydref 2024, teithiodd nifer o warchodwyr plant o Geredigion i Landudno lle cynhaliodd Pacey Cymru eu hail ddigwyddiad blynyddol i ddathlu llwyddiannau aelodau yng Nghymru a chydnabod eu hymrwymiad parhaus i'r sector gofal plant a blynyddoedd cynnar.

Clywodd y cynrychiolwyr ddiweddariadau gan Pacey Cymru a siaradwyr gwadd gan gynnwys Frances Rees o Awtistiaeth Cymru ar bwnc niwroamrywiaeth a'r Athro Ben Ambridge yn siarad am awgrymiadau ar sail tystiolaeth ar gyfer hybu datblygiad iaith plant.

Roedd yn destun balchder mawr i Uned Gofal Plant Ceredigion weld nifer o weithwyr gofal plant proffesiynol o'r sir yn cael eu henwebu am wobrau, ac mae'r rhain yn cynnwys Sara Ahmed-Pattisahusiwa yn y categori Cofrestru Gwobrwyol; Claire Lowe yng nghategori Seren y Cyfryngau Cymdeithasol; Carys Flynn, Eleri Williams a Terri Steele yn y categori Partneriaeth mewn Ymarfer.

Dywedodd Carys Davies, Rheolwr Gofal Plant Strategol Ceredigion: “Llongyfarchiadau mawr i Warchodwr Plant Ceredigion, Terri Steele, nid yn unig am sicrhau mynediad Cymraeg Camau lefel 1 eleni, ond hefyd am fod yn gyd-enillydd gwobr Hyrwyddwr Llesiant. Mae'r wobr hon yn arbennig gan ei bod wedi'i henwebu gan rieni a gofalwyr, a siaradodd am y gwahaniaeth enfawr y mae Terri wedi'i wneud i fywydau eu plant gan gynnwys dysgu arwyddiaith i blant a chyfleoedd ar gyfer dysgu yn yr awyr agored sy’n cefnogi llesiant. Cafodd ei chydnabod am ei chefnogaeth, ei diogelwch a'i thosturi parhaus.”

“Mae'n wych gweld rhai o Warchodwyr Plant Ceredigion yn cael eu cydnabod am wobr genedlaethol. Mae gwarchodwyr plant yn rhan allweddol o'r seilwaith gofal plant yng Ngheredigion, a hoffem ddiolch i bob un am eu gwasanaeth parhaus i deuluoedd Ceredigion.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: "Llongyfarchiadau i rai o Warchodwyr Plant Ceredigion am gael eu henwebu am wobr. Mae gwarchodwyr plant yn darparu gwasanaeth allweddol i deuluoedd ledled y sir gan sicrhau bod plant yn derbyn gofal o ansawdd uchel mewn amgylchedd cartrefol o'r cartref."

I ddarllen fwy am Pacey Cymru ewch i www.pacey.org.uk/partners/pacey-in-wales/