Skip to main content

Ceredigion County Council website

Crwydro Ceredigion: cyfleoedd marchogaeth a beicio ar draws y Sir

Mae Ceredigion, gyda'i arfordir a'i chefn gwlad ysblennydd, wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i gerddwyr ers amser maith, ond mae llawer o lwybrau sydd hefyd yn addas ar gyfer marchogaeth a beicio.

Bydd cyfres o deithiau cylchol sy’n addas i farchogwyr a beicwyr yn cael eu rhannu ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor dros yr haf. Y nod yw annog preswylwyr Ceredigion ac ymwelwyr i wneud defnydd o’r llwybrau hyn a mentro i rannau o’r Sir nad ydynt efallai wedi’u darganfod o’r blaen.

Mae dilyn llwybrau ceffylau a chilffyrdd yn rhoi mynediad i gefn gwlad agored, ynghyd â dyffrynnoedd coediog, nentydd ac afonydd. Mae wedi’i brofi ers amser maith bod treulio amser mewn mannau gwyrdd a natur yn dda ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol a lles.  

Gallwch weld y teithiau hyn ar dudalen Crwydro a Marchogaeth yma: Crwydro a Marchogaeth - Cyngor Sir Ceredigion . Ar y wefan mae map syml o'r llwybr, cyfanswm y pellter a'r pwyntiau cychwyn a awgrymir, gydag allwedd yn dangos pa rannau sydd oddi ar y ffordd a lle mae'r llwybr yn dilyn ffyrdd gwledig. Gall defnyddwyr fynd a chopi o’r daith wedi’i brintio neu lawr lwytho copi at eu ffôn clyfar i helpu nhw ar eu taith. 

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, aelod o'r Cabinet, sy'n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio: “Mae gan Geredigion gymaint i’w gynnig i’n preswylwyr ac ymwelwyr, o glogwyni uchel, cilfachau cysgodol, bryniau ymdonnog, dyffrynnoedd ffrwythlon, cymoedd coediog a nentydd parablus. Bydd hyrwyddo'r gwahanol lwybrau hyn nid yn unig yn annog twristiaid i ymweld â nhw ond hefyd i dynnu sylw pobl leol at ardaloedd efallai nad ydynt wedi'u darganfod o'r blaen."

Atgoffir y sawl sy’n defnyddio Llwybrau Tramwy Cyhoeddus fod y llwybrau hyn yn croesi tir preifat a bod angen dilyn y Cod Cefn Gwlad drwy’r amser: Y Cod Cefn Gwlad – Cyngor Sir Ceredigion. Dylai defnyddwyr gadw at lwybrau a gadael y clwydi fel y cawsant eu darganfod. 

Cyfrifoldeb defnyddwyr llwybrau yw dod o hyd i fan diogel a phriodol i barcio, a sicrhau nad ydynt yn achosi rhwystr. Mae nifer o glwydi ar lawer o'r llwybrau, ac efallai y bydd angen i chi ddod oddi ar gefn eich ceffyl neu feic i'w hagor mewn rhai mannau.

I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost i Countryside@ceredigion.gov.uk neu cysylltwch â 01545 570881 a gofynnwch i siarad ag aelod o'r tîm Arfordir a Chefn gwlad.