Ceredigion yn falch o fod Sir Nawdd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer 2024
Ceredigion yw Sir Nawdd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni. Bob blwyddyn, mae'r Sioe yn dewis Sir Nawdd gwahanol; mae hyn yn dyddio’n ôl i wreiddiau'r Sioe, pan newidiodd ei lleoliad bob blwyddyn o sir i sir yng Nghymru.
Mae Ceredigion yn falch o’i threftadaeth amaethyddol a diwylliannol a’r cyfraniad y mae wedi’i wneud i un o uchafbwyntiau’r flwyddyn: Sioe Frenhinol Cymru. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pobl Ceredigion wedi dod at ei gilydd i gynnal gweithgareddau i godi arian at Sioe’r Cardis. Edrychwn ymlaen at benllanw’r gweithgareddau yn y Sioe Frenhinol, a fydd yn dathlu 120 mlynedd ers ei sefydlu’n wreiddiol yn Aberystwyth yn 1904.
Amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd yw un o’n prif sectorau yng Ngheredigion. Mae’r Sir yn frith o ffermydd teuluol sy’n cynnal busnesau o’r safon uchaf, yn ogystal â bod yn gadarnleoedd i iaith a thraddodiadau’r Gymraeg. Rydym yn falch o’n busnesau annibynnol rhagorol – o gwmnïau bwyd a diod i fusnesau lletygarwch a thwristiaeth. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i sicrhau bod ein busnesau a’n cymunedau yn parhau i ffynnu a thyfu. Mae partneriaethau fel Tyfu Canolbarth Cymru ac Arfor yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer y dyfodol, gyda chymorth uniongyrchol i ddechrau neu dyfu eich busnes ar gael trwy gynllun Cynnal y Cardi.
Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’n fraint sylweddol i Geredigion fod yn Sir Nawdd y Sioe Frenhinol Cymru eleni. Mae’r cyfle mawreddog hwn yn ein galluogi i arddangos y diwylliant cyfoethog a’r ysbryd cymunedol sy’n diffinio ein Sir wledig. Mae hefyd yn gyfle i ni hyrwyddo’r cyfleoedd entrepreneuraidd sydd yng Ngheredigion a’r cymorth sydd ar gael i fusnesau ffynnu.”
Galwch heibio ein stondin yn y Sioe Frenhinol Cymru rhwng 22-25 Gorffennaf 2024, lle bydd cyfleoedd i'r teulu cyfan gymryd rhan fel digwyddiadau, defnyddio clustffonau VR, siaradwyr gwadd a mwy.
I ddarganfod mwy am sut mae Ceredigion wedi ymrwymo i dwf ein busnes a’n cymunedau, ewch i’n gwefan: www.ceredigion.gov.uk a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol: Cyngor Sir Ceredigion ar Facebook, @caruceredigion ar Instagram, a @csceredigion ar X (Twitter yn flaenorol).