Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceisio barn a gwybodaeth trigolion am ardal cadwraeth

Gofynnir i drigolion a phartïon sydd â diddordeb am eu mewnbwn i lywio Cynllun Arfarnu a Rheoli Ardal Gadwraeth Llansanffried.

Llansanffraid yn wynebu'r gogledd ar hyd arfordir Ceredigion.Mae ardaloedd cadwraeth yn ardaloedd penodol gyda rhinweddau pensaernïol neu hanesyddol arbennig ac mae Ceredigion wedi'i bendithio â 13 ohonynt. Mae'n ofynnol i Gyngor Sir Ceredigion, o bryd i'w gilydd, adolygu'r ardaloedd hyn a llunio cynigion ar gyfer eu cadw a'u gwella. 

Er mwyn gwneud hyn, mae'r Cyngor yn cynnal neu'n diweddaru ei Arfarniadau Ardal Gadwraeth i adnabod beth sy'n gwneud ardal yn arbennig ac unrhyw gyfleoedd neu broblemau a allai fod. Mae hyn yn sail ar gyfer cynlluniau rheoli manylach sy'n nodi ymatebion priodol i fynd i'r afael â'r cyfleoedd a'r materion hyn.

Elfen bwysig o'r gwaith hwn yw casglu gwybodaeth leol am yr ardal gadwraeth a deall sut mae pobl yn gweld yr ardal. Os hoffech chi ein helpu i lunio'r cynllun arfarnu a rheoli ardal gadwraeth ar gyfer Llansanffraid, neu os hoffech ddysgu mwy am yr ardal gadwraeth, dewch draw i'r digwyddiad galw heibio canlynol:

Dyddiad

Lleoliad

Amser

Dydd Mercher 11 Medi

Neuadd Llanon

17:00 – 19:00

 

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio: "Byddwn yn annog pob parti sydd â diddordeb i gymryd rhan yn y gwaith hwn, fel y gellir ystyried barn a gwybodaeth trigolion a sefydliadau i sicrhau bod treftadaeth arbennig Ceredigion yn cael ei rheoli am genedlaethau i ddod."

Fel arall, os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr rhanddeiliaid, neu am unrhyw fanylion eraill, cysylltwch â Gwasanaeth Polisi Cynllunio y Cyngor drwy e-bost yn ldp@ceredigion.gov.uk