Cabinet Ceredigion yn datblygu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer opsiynau addysg ôl-16
Yn ystod cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2023, rhoddodd Aelodau’r Cabinet gyfarwyddyd i’r Gwasanaeth Ysgolion a Dysgu Gydol Oes i gynnal astudiaeth ddichonoldeb er mwyn rhoi ystyriaeth fanwl i Opsiwn 2 ag Opsiwn 4 yn yr ‘Adolygiad o’r Ddarpariaeth Ôl-16 yng Ngheredigion’.
Opsiwn 2: Datblygu’r Sefyllfa Gyfredol
Byddai darpariaeth ôl-16 yn parhau ar y 6 safle presennol. Byddai’r 6 Bwrdd Llywodraethol presennol yn parhau efo’u rolau presennol o ran llywodraethiant hyd at 16 oed, ond yn cytuno efo’r Awdurdod Lleol i ffurfio Bwrdd Strategol a fyddai’n rheoli cyllideb ôl-16 yr Awdurdod, sicrhau trefniadau addas ar gyfer cyd-gynllunio’r cwricwlwm ac yna comisiynu’r ddarpariaeth gan yr ysgolion, e-sgol a phartneriaid eraill.
Opsiwn 4: Un Ganolfan
Byddai’r opsiwn hwn yn cynnig newid mwy pellgyrhaeddol. Byddai’n golygu cau’r ddarpariaeth ôl-16 bresennol a sefydlu Canolfan Ragoriaeth, yn cynnwys ystod o bartneriaid, ar un neu fwy o safleoedd daearyddol addas. Byddai Corff Llywodraethol sydd yn annibynnol o’r ysgolion yn gyfrifol am y cyllid a’r cwricwlwm ac yn penodi nifer fechan o staff craidd ar gyfer llywio a rheoli’r gwaith.
Penodwyd Mr John Hayes i gynnal astudiaeth ddichonoldeb o Opsiwn 2 ag Opsiwn 4, gan ystyried yn fanwl cynaladwyedd y ddarpariaeth addysg ôl-16 yn y Sir. Ymgynghorodd Mr Hayes â rhanddeiliaid amrywiol yn ystod y cyfnod hwn, ac mae’r adroddiad yn cynnwys eu hymatebion a’u hystyriaethau.
Cyflwynwyd ag ystyriwyd yr adroddiad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu ar 17 Hydref 2024, ac yna y Cabinet ar 5 Tachwedd 2024.
Trafodwyd ag ystyriwyd yn fanwl iawn y cyfleoedd yn ogystal â’r cryfderau, y gwendidau a’r bygythiadau posib i’r ddwy opsiwn.
Yn dilyn y drafodaeth yn y cyfarfod Cabinet ar 5 Tachwedd, cytunwyd gyda’r argymhellion sef:
- Cymeradwyo’r cynnig i ddechrau ar y broses o fabwysiadau Opsiwn 2, sef sicrhau trefniadau addas ar gyfer cyd-gynllunio’r cwricwlwm Ôl-16, ar gyfer Medi 2026.
- Cymeradwyo’r cynnig i gynnal ymchwiliad pellach i Opsiwn 4, er mwyn rhoi ystyriaeth fanylach i sefydlu Canolfan Ragoriaeth (ar un neu fwy o safleoedd addas).
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion a Dysgu Gydol Oes: “Prif nod y adolygiad oedd i ddarparu dadansoddiad ac arfarniad o’r sefyllfa gyfredol o ran darpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion a nodi opsiynau cynaliadwy i’r dyfodol, ynghyd â’u manteision ac anfanteision posib. Mae’n hynod o bwysig nid yn unig ein bod yn cynnal y safonau uchel o addysg a ddarperir i ddisgyblion Ôl-16 yng Ngheredigion, ond ffynnu i’w gwella, a darparu cyfleoedd i ddisgyblion gael mynediad at ystod ehangach o bynciau, gan gynnwys pynciau galwedigaethol.”