Skip to main content

Ceredigion County Council website

Bws Dementia yn ymweld â Cheredigion

Mae cyfle i drigolion Ceredigion brofi Bws Dementia ym mis Awst 2024 i roi gwell dealltwriaeth o'r heriau dyddiol sy'n wynebu'r rhai sy'n byw gyda dementia.

Bws DementiaAnogir trigolion Ceredigion i fynychu'r profiad unigryw rhad ac am ddim hwn a drefnir gan dîm Dysgu a Datblygu Cyngor Sir Ceredigion.

Mae’r Bws Dementia yn rhoi profiad o sut y gallai deimlo i fyw â dementia drwy ddefnyddio offer arbenigol a chreu amgylchedd ysgogol. 

Gan gydweithio â’r darparwr hyfforddiant arbenigol Training2care, bydd y Bws Dementia wedi’i lleoli tu allan i Ganolfan Byw’n Annibynnol, Swyddfeydd y Cyngor, Penmorfa, Aberaeron ar ddydd Llun 12 Awst 2024. 
    
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae llawer o drigolion Ceredigion yn byw gyda dementia. Bydd teuluoedd a gofalwyr yn ymwybodol o’r heriau a ddaw gyda hyn. Hoffem ddiolch i Training2care am ein dewis ni i gynnal a darparu’r profiad hwn i drigolion Ceredigion. Mae’r Bws Dementia yn brofiad pwerus ac unigryw ac rydym yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn bachu ar y cyfle i archebu lle ar y sesiynau.”  

Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael ar gyfer sesiynau'r bore a'r prynhawn. Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw. I ddarganfod mwy ac i archebu lle ewch i www.training2care.com/ceredigion-county-council-virtual-dementia-tour.htm