Atgoffa pleidleiswyr i ddod a dogfen adnabod â llun i bleidleisio ddydd Iau
Cynhelir Etholiad Senedd y Deyrnas Unedig ar gyfer Aelod Seneddol Etholaeth Ceredigion Preseli ar ddydd Iau 04 Gorffennaf 2024.
Dyma’r tro cyntaf i bleidleiswyr bleidleisio yn etholaeth Ceredigion Preseli: etholaeth newydd yn dilyn newidiadau ffiniau etholaethau ar draws Prydain.
Bydd angen i bleidleiswyr cymwys ddangos dogfen adnabod â llun i bleidleisio yn yr Etholiad hwn. Mae’r rhestr lawn o’r mathau o ddogfen adnabod â llun a dderbynnir ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol: www.gov.uk/sut-i-bleidleisio/prawf-adnabod-ffotograffig-angenrheidiol
Os ydych yn pleidleisio drwy’r post, mae gennych ddau opsiwn:
• Dychwelyd eich pleidleisiau post i swyddfa'r Cyngor ym Mhenmorfa, Aberaeron, lle bydd angen i chi lenwi ffurflen gyda chymorth swyddog Etholiadau. Peidiwch â gadael eich pleidlais bost yn y blwch post y tu allan i swyddfa’r Cyngor. Bydd y pleidleisiau post hyn yn cael eu gwrthod.
• Dychwelyd eich pleidlais post i unrhyw orsaf bleidleisio yng Ngheredigion erbyn 10pm ar 04 Gorffennaf 2024 lle bydd angen i chi lenwi ffurflen.
Cofiwch, dim ond eich pleidlais bost eich hunan a phleidleisiau post hyd at bump o bobl eraill y bydd modd i chi eu cyflwyno yn yr etholiad hwn.
Dywedodd Eifion Evans, Swyddog Canlyniadau Ceredigion Preseli: “Os ydych chi'n cyrraedd gorsaf bleidleisio a'ch bod wedi anghofio eich dogfen adnabod â llun, gallwch chi ddychwelyd yn nes ymlaen cyn i'r orsaf bleidleisio gau a bwrw eich pleidlais. Os oes gan bleidleisiwr bryderon am ddangos eu hwyneb mewn gorsaf bleidleisio, oherwydd eu bod yn gwisgo gorchudd wyneb er enghraifft, gallant ofyn i gael siarad gyda gweithiwr yn yr orsaf bleidleisio yn breifat. Ni fydd angen iddynt roi rheswm dros eu cais nac egluro pam y byddai'n well ganddynt sgwrs yn breifat. Bydd staff yn cael eu hyfforddi ar sut i ymdrin â cheisiadau am brawf adnabod yn breifat.”
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Etholiadol Ceredigion Preseli ar 01545 572032, gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk neu ewch i www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/etholiadau-a-chofrestru-etholiadol/etholiad-senedd-y-deyrnas-unedig-ar-gyfer-aelod-seneddol-etholaeth-ceredigion-preseli/