Skip to main content

Ceredigion County Council website

Arloesi cysylltedd gwledig yn trawsnewid monitro amgylcheddol yng Ngheredigion

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o fod yn rhan o brosiect Sbarduno Cysylltedd Gwledig (Rural Connectivity Accelerator (RCA)) sy’n torri tir newydd ac wedi’i ariannu gan yr Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT). Mae’r prosiect arloesi yn defnyddio cysylltiadau cyfathrebu lloeren Cylchlwybr Isel y Ddaear (Low Earth Orbit (LEO)) i oresgyn heriau cysylltedd mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell gan osod model ar gyfer datblygiadau monitro amgylcheddol.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor “Y tu hwnt i wella cysylltedd, mae prosiect yr RCA yn cynnig buddion megis data amgylcheddol cyfredol o’n hafonydd. Gall hyn gynorthwyo defnyddwyr afonydd i dderbyn gwybodaeth, hybu ymdrechion cadwraeth a chefnogi cynllunio at y dyfodol. Mae’n ddull cyfannol sydd o fudd i’n cymuned a’r amgylchedd. Mae hefyd yn dangos sut y gall mentrau cysylltedd gwledig drawsnewid ein rhanbarth.”

Wedi’i gefnogi gan yr Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT), mae’r prosiect yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad ag arweinwyr technoleg, ynghyd â rhanddeiliaid fel Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a dinasyddion lleol sy’n wyddonwyr ymroddedig. 

Bydd y system sydd ar sail LEO yn cael ei brofi’n drylwyr rhwng Hydref 2024 i fis Mawrth 2025 gan sicrhau ei fod yn perfformio’n ddibynadwy mewn amodau tywydd garw sy’n arferol y ystod y tymor hwn. Os bydd y prawf yn llwyddiannus, gellid defnyddio’r system y tu hwnt i’r cam cychwynnol gan gasglu data o orsafoedd monitro ar hyd y brif Afon Teifi a’i llednentydd. Nod y cyrhaeddiad estynedig hwn yw cynnig darlun mwy cyflawn o lefelau maethol ac ansawdd dŵr yr afon. 

Ochr yn ochr â'r dechnoleg loeren, bydd dinasyddion lleol sy’n wyddonwyr yn parhau â'u gwaith hanfodol. Trwy gyfrannu samplau dŵr ar hap, byddant yn cyfoethogi'r data, gan ychwanegu dyfnder ac amrywiad i'r ymdrechion monitro. Bydd yr holl wybodaeth hon yn cael ei harddangos trwy ddangosfwrdd rhyngweithiol, gan ddarparu golwg hygyrch, fanwl o broffil maethol yr afon ar gyfer rhanddeiliaid. Mae'r dangosfwrdd hwn yn rhan greiddiol o'r Prosiect Monitro Maetholion, y mae'r rhaglen RCA yn ei gefnogi.

Os yw technolegau LEO yn effeithiol o dan amodau'r byd go iawn, gellid ehangu eu defnydd i feysydd eraill, gan wella rhwydweithiau presennol fel y Rhwydwaith Ardal Eang Ystod Hir. (Long Range Wide Area Network (LoRaWAN)). Byddai hyn yn cefnogi gwahanol sectorau fel gwasanaethau amgylcheddol, priffyrdd a busnesau trwy ddarparu cysylltedd dibynadwy ar gyfer synwyryddion Rhyngrwyd Pethau (Internet of Things (IoT)) yn hyd yn oed y rhannau mwyaf anghysbell o'r sir. Gallai hyn fynd i'r afael â'r bylchau presennol o ran sylw, gan alluogi darparu gwasanaethau a chasglu data yn fwy cynhwysfawr.