Aelodau Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn ymweld â San Steffan
Ar 10 Medi 2024, teithiodd Aeron Dafydd, disgybl Ysgol Bro Teifi sy’n cynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid Prydain fel Aelod Seneddol Ifanc a Rosa Waby, disgybl Ysgol Gyfun Penweddig a Chadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion i Lundain i gwrdd ag AS Ceredigion, Ben Lake.
Roedd yr ymweliad yn cynnwys taith o amgylch San Steffan gan AS Ben Lake, sesiwn holi ac ateb, cyfarfod staff ac aelodau seneddol eraill, a chyfle i eistedd yn yr oriel wylio a gwrando ar ddadleuon oedd yn digwydd yn y siambr. Roedd y daith yn gyfle i bobl ifanc ddysgu am hanes Palas San Steffan, gwaith Senedd y DU, sut y defnyddir y mannau gweithio amrywiol yr ymwelwyd â hwy a ffyrdd y gall pobl ifanc gymryd rhan ac ymgysylltu â’r broses ddemocrataidd.
Dywedodd Aeron Dafydd, ASI Prydain dros Geredigion: “Roedd ymweld â San Steffan yn brofiad ysbrydoledig ac yn agoriad llygad. Roedd gweld yr Aelodau Seneddol ar waith a bod yn dyst i ddadl fyw wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach i mi o’r broses wleidyddol. Mae wedi cryfhau fy angerdd dros gael effaith ystyrlon mewn bywyd cyhoeddus."
Dywedodd Rosa Waby, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion: “Mae’r profiad hwn wedi rhoi cipolwg gwerthfawr inni ar waith mewnol Senedd y DU, yn ogystal â lle i drafod pryderon pwysig pobl ifanc. Mae cyfleoedd fel hyn yn ein galluogi i gryfhau ymhellach y berthynas rhwng ein Cyngor Ieuenctid lleol a Llywodraeth y DU, gan ganiatáu inni rymuso lleisiau pobl ifanc”
Ychwanegodd Gwion Bowen, Uwch Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Ben Lake a’i swyddfa am roi cyfle mor wych i ni eto eleni. Fe wnaethon ni fwynhau teithio i Lundain a threulio’r prynhawn gydag ef, yn cael golwg ‘tu ôl i’r llenni’ o ystâd Seneddol San Steffan, a dysgu mwy am rôl Aelodau Seneddol a’u gwaith. Cafodd y bobl ifanc eu hysbrydoli gan y cyfle ac fe wnaethon ni fwynhau’r profiad yn fawr.”
Dywedodd Ben Lake, AS Ceredigion: "Cefais y pleser o groesawu Aeron a Rosa i San Steffan ar ddechrau'r mis. Roedd yn galonogol gweld pobl ifanc yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth oherwydd yn y pen draw, nhw yw'r dyfodol ac mae eu brwdfrydedd yn hanfodol er mwyn creu cymdeithas well i bawb. Rydw i'n gobeithio bod y daith wedi bod o fudd iddynt, ac eu bod wedi medru datblygu eu dealltwriaeth o sut mae ein system wleidyddol yn gweithio. Edrychaf ymlaen at glywed mwy ganddynt yn y dyfodol. Pob dymuniad da i chi.”
Y Cynghorydd Wyn Thomas yw Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dywedodd: “Mae’n hanfodol bwysig bod pobl ifanc yn cael y cyfle i ymgysylltu a chymryd rhan yn y broses wleidyddol, ac mae hon yn un o sawl ffordd y gallwn gefnogi’r ymgysylltiad hwnnw, ac rydym yn ddiolchgar i’n AS lleol Ben Lake am ei gefnogaeth barhaus i alluogi pobl ifanc i gael y cyfleoedd hyn.”